Skip to main content

Poster rasys Nos Galan, Cwm Cynon, 1993

Disgrifiadau

Mae rasys Nos Galan yn dathlu bywyd Griffith Morgan (Guto Nyth-brân, 1700-37) o Lanwynno; ei garreg fedd ef sydd ar y poster. Roedd Guto Nyth-brân yn adnabyddus am ei gyflymder fel rhedwr. Pan oedd yn 37 mlwydd oed fe dderbyniodd sialens i redeg 12 milltir o Gasnewydd i Gaerffili. Fe enillodd y ras yn hawdd, ond bu farw yn sydyn wrth y llinell derfyn wedi iddo gael ei daro ar ei gefn ar ddiwedd y ras gan un o'i gefnogwyr. Fe'i claddwyd ger Aberpennar.
Cynhaliwyd y rasys Nos Galan cyntaf ym 1958 ac maent wedi tyfu o un ras wibio 100 llath a ras pedair milltir i gyfres o rasys gyda'r ras 5 cilomedr yn uchafbwynt. Mae personoliaeth chwaraeon enwog yn mynychu'r rasys bob blwyddyn, gan osod torch ar fedd Guto.

Owner:
Cynon Valley Museum
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Cwm Cynon
Copyright Details:
Amgueddfa Cwm Cynon 2002
Publisher Ref:
GTJ01142
Eitem wedi’i llwytho:
21/7/2010
Date originally created:
1993
Gwelediadau:
1411
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment