Rhaglen gofrodd Rasys Nos Galan, Aberdâr, 1994 [delwedd 1 o 15]
Rhaglen gofrodd Rasys Nos Galan, Aberdâr, 1994 [delwedd 1 o 15]
Disgrifiadau
Mae'r Rasys Nos Galan yn dathlu Griffith Morgan (Guto Nyth-brân, 1700-37) o Lanwynno.
Daeth Guto Nyth-brân yn enwog am ei redeg cyflym. Pan oedd yn 37 oed derbyniodd her i redeg 12 milltir o Gasnewydd i Gaerffili. Enillodd y ras yn hawdd, ond roedd y slapio ar ei gefn i'w longyfarch yn ormod iddo a bu farw. Cafodd ei gladdu ger Aberpennar. Dechreuwyd y Rasys Nos Galan ym 1958 ac maent wedi tyfu o fod yn un ras 100 llath ac un ras pedair milltir, i fod yn gyfres o ddigwyddiadau, a'r uchafbwynt yw ras 5cm. Bob blwyddyn mae rhywun enwog o fyd chwaraeon yn mynychu'r rasys ac yn rhoi torch ar fedd Guto.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment