Skip to main content

Arferion Blwyddyn Newydd -Rhodd calennig, Y Berllan

Disgrifiadau

Arferion Blwyddyn Newydd -Rhodd calennig, Y Berllan
Byddai’r plant yn hel calennig ar fore cyntaf y flwyddyn. Crwydrant o dŷ i dŷ yn canu penillion traddodiadol wrth ofyn am galennig. Rhan amlaf cant arian poced, losin neu anrheg.
Arferiad cysylltiedig â hel Calennig oedd cario afal neu oren wedi addurno o dŷ i dŷ er mwyn dod a lwc dda. Byddai rhai yn rhoi’r afal i deulu a ffrindiau neu eu harddangos yn y tŷ wedi iddynt ddychwelyd fel arwydd o lwc dda.
Defnyddiwyd afal neu oren ar gyfer y ‘Rhodd Calennig’ neu’r ‘Berllan’ a rhoddwyd tri brigyn tebyg i dreipod ar eu gwaelod, fyddai’n cael ei ddefnyddio i ddal y ffrwyth i fyny. Gwasgwyd ceirch, almondau neu glofs ynddi, yn ogystal â phlanhigion bytholwyrdd. Rhoddwyd brigyn mewn i’r ochor i’w ddal fel dolen. Weithiau addurnwyd y darn hefo blawd i awgrymu eira. Credir bod yr arferiad yn perthyn i’n cyndeidiau oedd yn addoli’r haul; yr afal gynrychiola’r haul, a’r tri brigyn pren yn symbylu pelydrau’r haul. Credir bod y dail bytholwyrdd yn symbol o fywyd tragwyddol, a’r ceirch yn bigau gwaywffyn a daflwyd at yr haul, ei elyn.
Addurnwyd yr afal hefo gwahanol blanhigion am resymau penodol; celyn ar gyfer rhagweld, rhosmari er mwyn cofio, bocs er mwyn dewrder, lafant i sicrhau digonedd dros y flwyddyn a llawryf er gogoniant

Owner:
Cricieth Enwau Chwedlau a Chân Criccieth Songs Places and Legends
Crëwr:
Ffion Gwyn - Robert D Cadwalader
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
23/12/2022
Date originally created:
22/12/2022
Gwelediadau:
800
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment