Cricieth - Nosweithiau Cyflaith
Disgrifiadau
Cricieth - Nosweithiau Cyflaith
Roedd gwneud cyflaith, neu cyflaeth, yn enwedig dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, yn wledd arbennig ar hyd a lled Cymru ac wrth gwrs, yn Eifionydd. Roedd yn ddigwyddiad pleserus a dod i gilydd a dal i gael ei gynnal, i raddau llai heddiw.
Yn 1897 mewn erthygl yn y cyhoeddiad “Y Llan” disgrifiwyd, “ Ryw hanner can’ blynedd yn ôl, heliodd lot o enethod at eu gilydd yn nghwr rhyw bentref yn Eifionydd i wneud “Plum Pudding a chyflath. Wedi tylino pwdin rhwymodd Begw Huws, ef yn ei phedog fawr, fu helynt y berwi, a’r lleill hefo’r cyflath ar hyd y nos; ond ysywaeth, yr oedd y llanciau wedi tynnu gwynt ar y bwti, ac aethant i ben y simneu, gan fwrw huddyg i’r crochan a dyna fu tynged pwdin Begw Huws. Rhy ddrwg, onide? Roedd y sesiynau yn gyfrinachol ond mae hanes ar lafar o Gricieth yn dweud bod rhai llanciau, ar Noson Drygionys, wedi clywed bod sesiwn gwneud cyflaith yn digwydd mewn bwthyn arbennig; Fe wnaethon nhw ollwng cyw iâr byw i lawr y simnai gan achosi anhrefn!
Mae erthygl arall yn sôn : “Fel rheol fe ddechreuid arni tuag un ar ddeg o’r gloch. A dyna dywallt y triagl a’r ymenyn i’r crochan. Nid anaml y byddai ansicrwydd ar y cwestiwn, faint i roi o hyn a hyn, ond fel rheol fe fyddai rhywun ddigon pendant ar y pwnc. Cymerai pob un ei dro'r gymysgfa ac ni fodlonid oni chlywid y llyw yn cyffwrdd â gwaelod y crochan. Byddai pob un yn barod â’i stori am rywun neu’i gilydd. Wedi gorffen berwi’r cyfleth a’r cwmni oll wedi torchi eu llewys ac ymolchi yn lân, tywelltid y cochraniad poeth ar garreg las wedi ei hirio ag ymenyn a dechreuai pawb ar y gwaith o ‘dyny’r cyfleth’, a mwyaf drinnid arno yn y dull yma, gorau gyd fyddai, os oeddym i gredu barn y rhai profedig”. Byddai’r dynion ifanc hefyd yn dod at ei gilydd ar gyfer nosweithiau cyflaith ac ysgrifennodd y diweddar Henry Jones (Hari Bach) ac Owen E. Owen, fferm Penybryn, yng Nghricieth amdanynt yn eu hunangofiannau. Roedd Owen yn cofio, ‘Mae gennyf frith gof fod y rysait honno’n weddol seml, sef pwys o siwgr, pwys o ymenyn a phwys o driog. Y prif beth yr anelem ato fyddai cael ei fwyta, a doedd gennym awchus ‘mo’r amser i aros iddo oeri. Yr hyn a wnaem felly fyddai ei dywallt yn araf i fwcedaid o ddŵr oer, a’i wylio wedyn yn cyrlio a chaledu yn llinynnau main parod i’w fwyta.”
NOSON GYFLATH
Noson gyflath noson ddedwyd
Pawb a’i stori yn ei dro;
Nos gwneir llawer o ddireid;
Yma a thraw gan lanciau’r fro,
Noson hefyd sydd yn rhoddi
Gwir llawenydd ar bob tant;
Profi’r hynny pan fo’r cyflath
Wedi roi yn ‘sanau’r plant
T.J.T. Nebo
Fynonellau:
Y Llan - 1 Ionawr 1897
Cylchgronau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Henry Jones – Straeon Hari Bach
Owen E. Owen – Doctor Pen-y-Bryn
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment