'The Two Mrs Frasers', Theatr Un Cwmni The New Rialto, Bae Colwyn, 16 Mai 1938
Disgrifiadau
Er fod capsiwn y gyfres hyn o ffotograffau'n dweud 'The Two Mrs Frasers', mae'n fwy tebygol eu bod yn olygfeydd o 'The First Mrs Fraser' gan St John Ervine a berfformiwyd yn Theatr Un Cwmni Bae Colwyn ym mis Mai 1938. Yn actio oedd Robert Lees, Clara Widdicombe, Patricia Hastings, Rita Dagmur a Dennis Rhyder. Tynnwyd y lluniau gan y ffotograffydd lleol Arthur Wrigley. Gan fod perfformiadau 'rep' yn parhau am wythnos yn unig, byddai Wrigley'n tynnu lluniau'r perfformiad ar nos Lun ac yna'n eu datblygu a'u hargraffu dros nos i'w harddangos y tu allan i'r theatr ar y dydd Mawrth. Tynnwyd y lluniau gan Arthur Wrigley o Fae Colwyn. Rhodd caredig gan ei ferch Patricia Rigby yw rhain.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment