Evan James (1809-93), awdur geiriau 'Hen Wlad fy Nhadau'
Disgrifiadau
Roedd Evan James (Ieuan ap Iago, 1809-93) yn wehydd a gwerthwr gwlân wrth ei alwedigaeth ac hefyd yn berchen tafarn yr Ancient Druid Inn yn Argoed, Bedwellte, Sir Fynwy. Symudodd i Bontypridd pan oedd ei fab James (Iago ap Ieuan, 1833-1902) yn fachgen ifanc. Evan James a'i fab James a gyfansoddodd anthem genedlaethol Cymru, 'Hen Wlad fy Nhadau' ym 1856. Roedd Evan yn barddoni a chredir mai ef a ysgrifennodd y geiriau ac mai ei fab James a gyfansoddodd yr alaw. Cyhoeddwyd y gân yn y gyfrol 'Gems of Welsh Melody' (1860) a daeth yn hynod boblogaidd ymron ar unwaith. Nid yw'n sicr pryd yn union y cafodd y gân ei mabwysiadu fel anthem cenedlaethol Cymru. Dadorchuddiwyd cofeb, o waith W. Goscombe John, i gofio am Evan a James James ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, ym 1930.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment