Hunan-bortread o'r ffotograffydd John Francis Lloyd, c. 1900
Disgrifiadau
Roedd John Francis Lloyd yn glerc yn ôl ei alwedigaeth. Cafodd ei benodi yn Brif Glerc yng Nghofrestrfa Profebion Caerfyrddin. Roedd yn ffotograffydd amatur talentog a defnyddiai stiwdio ar waelod ei ardd yn rhif 19 Picton Terrace, Caerfyrddin. Chwaraeodd J. F. Lloyd ran flaenllaw ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol y dref. Roedd yn aelod o'r pwyllgor Celf a Chrefft pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin ym 1911, ac roedd yn galigraffydd ac adroddwr. Mae ei dalentau fel ffotograffydd wedi derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r hunan-bortread hwn yn dangos dyn hapus, bodlon ei fyd, a oedd yn hefyd yn dechnegydd ac artist cyflawn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment