Rhaglen 'Why Not Tonight?' a berfformiwyd yn Theatr Un Cwmni New Rialto, Bae Colwyn, 5 Ionawr 1943 [delwedd 1 o 3]
Rhaglen 'Why Not Tonight?' a berfformiwyd yn Theatr Un Cwmni New Rialto, Bae Colwyn, 5 Ionawr 1943 [delwedd 1 o 3]
Disgrifiadau
Perfformiwyd 'Why Not Tonight?' gan Stafford Dickens yn Theatr Un Cwmni Bae Colwyn yn ystod yr wythnos yn dechrau 5 Ionawr 1943. Y cast oedd Enid Staff, Jack Howarth, Maurice Jones, Jean Ainslie a Basil Munro. Parhaodd y theatr gyda pherfformiadau yn ystod y rhyfel, er roedd y perfformiadau'n sylweddol deneuach oherwydd dogni. Cafodd hysbysiadau eu hargraffu'n rhybuddio'r gynulleidfa pe byddai cyrch awyr, fe fyddai cyhoeddiad byr o'r llwyfan, ac fe fyddai seibiant byr yn dilyn i ganiatáu i unrhyw un a oedd yn dymuno gadael i wneud. Yna byddai'r perfformiad yn mynd yn ei flaen drwy'r cyrch gyda chyhoeddiad arall i gyhoeddi 'All Clear'.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment