Skip to main content

Ffermio Naturiol gyda James Williams. Straeon a Thirwedd Newidiol, Safbwynt Ffermwr – Tâp Sain 1

Disgrifiadau

Wrth fynd am dro drwy goetir hynafol Parc-Le-Breos, mae'r ffermwr James Williams yn esbonio sut y dechreuodd ymddiddori mewn Ffermio Naturiol a sut mae'n symud ei fferm i ffwrdd o ddulliau amaethyddol confensiynol.

Dechreuodd hyn.... wel dwi ddim yn ffermwr hyfforddedig, felly doeddwn i erioed wedi bod i'r coleg i astudio ffermio o gwbl. Ond wrth i fi dyfu lan, 'dych chi'n sylweddoli pa mor bwysig yw gwair i ffermwyr anifeiliaid.

Gwair yw'r peth pwysicaf. Felly fe es i ar gwrs gwair a sbardunodd hwn fy niddordeb ynddo. Mae'n swnio'n eitha' diflas, gwneud i wair dyfu, on'd ydy? Dwi'n gwrando arnaf i fy hun ac yn meddwl 'Am beth wyt ti'n siarad?', wrth siarad am fesur gwair a 'dych chi'n dod i'r math o fyd hwnnw sy'n ymwneud â 'Sut ydw i'n gwneud y gwair yn well? Sut ydw i'n gwneud y pridd yn well ..' ac yna symudodd hwnnw 'mlaen i'r pridd. Wel, y pridd yw'r peth pwysicaf i wneud i'r gwair dyfu'n well. Felly pan ddechreuais i symud ymlaen i'r pridd, dechreuais i ymchwilio'n fwy i bethau.

Ac yna 'dych chi'n dechrau meddwl, ac yn edrych ar amaethyddiaeth gonfensiynol ac effeithiau negyddol popeth 'dyn ni'n ei wneud. 'Dych chi'n gwybod, pan fyddwch yn edrych ar y moddion lladd llyngyr, ydy'r pethe 'ma wir yn gwneud beth mae e'n dweud ar y tun? Ydyn, maen nhw. Ydyn nhw'n lladd parasitiaid mewnol mewn anifail? Ydyn, yn bendant. Ond oes effeithiau cynyddol o wneud hynny? Oes, yn bendant. Felly beth yw'r effeithiau? Wel, fe fydd y tail yn eistedd yno am dri mis a bydd unrhyw bryfyn sy'n cyffwrdd ag e'n marw.

Ac mae'r math o bryfed 'dych chi'n eu lladd yn bryfed buddiol, a fydd mwy na thebyg yn eich helpu chi gyda pharasitiaid mewnol. Felly, 'dych chi'n gweld, mae llawer o arferion ffermio modern yn debyg i hyn - does ganddyn nhw ddim ymagwedd gyfannol at ffermio.

Mae'n ymwneud yn gyfan gwbl â thewhau'r fuwch mor gyflym â phosib, ac i ddiawl a'r canlyniadau. A phan fyddwch chi'n dilyn y llwybr hwnnw, mae'n iawn am y flwyddyn gyntaf, mae'n iawn am yr ail flwyddyn ond yna ma' pethe'n cymhlethu, 'chi'n gwybod be' dwi'n ei feddwl?

Fel effeithiau lladd yr holl fflora a ffawna - mae'n nhw'n cynyddu ac yn cynyddu. A hefyd pan fyddwch yn cefnogi'ch anifeiliaid mewn ffordd lle defnyddir moddion lladd llyngyr a phethau felly, 'dych chi'n cuddio problemau a diffygion hefyd.

Felly os meddyliwch chi, mae natur yn ymwneud â pharhad y trechaf. Felly os oes gennych rywbeth allwch chi ddim delio ag e' o ran llyngyr mewnol ac yna' dych chi'n cuddio'r broblem drwy ladd llyngyr gan ddefnyddio moddion lladd llyngyr, 'dych chi'n bridio gwendid yn yr anifail, ac os ydych chi'n cadw epil y fuwch honno, mae'n gynhenid wan oherwydd gall e' ddim goroesi na pherfformio'n dda oni bai ei fod e'n cael ei drin â moddion lladd llyngyr. Ble mae'r cyfan yn stopio? Dyw e ddim mewn gwirionedd, 'dych chi'n para i wneud hyn. Mae ideolegau ffermio naturiol ar gyfer llawer o bethau gwahanol, nid y rhan hon yn unig, wrth fagu anifeiliaid. Mae'n ffordd gwbl wahanol o wneud hyn. Ond wyddoch chi mae e'n hynod ddiddorol.

Owner:
Swansea Council Project RDP
Crëwr:
Florence Browne on behalf of Swansea Council Project RDP
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2022
Eitem wedi’i llwytho:
8/11/2022
Gwelediadau:
519
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment