Ann Lewis: Straeon a Thirwedd Newidiol, Safbwynt Ffermwr – Tâp Sain 3
Disgrifiadau
Ar ôl i'w rhieni farw, daeth Ann yn gyfrifol am fferm ei rhieni yn dilyn gyrfa ym maes TG. Mae hi bellach yn cadw moch, defaid a gwartheg, a chaiff ei chefnogi gan [anon] sy'n ffermio defaid gerllaw gyda'i theulu. Wrth eistedd ym muarth Ann, maent yn trafod sut brofiad yw gweithio'n agos gyda bywyd a marwolaeth bob dydd. Ann: 'Mae llawer o bethau annisgwyl. Os oes gennych chi anifail sy'n sâl, pan fydd gennych chi anifeiliaid yn rhoi genedigaeth... weithiau maen nhw’n marw acmae hynny y tu hwnt i'ch rheolaeth. Rydych chi wedi gwneud eich gorau...' Ail Ffermwr: 'Gwneud eich gorau, ydych' Ann: '... gyda moch bach sâl a phethau felly, yn y diwedd maen nhw naill ai'n byw neu'n marw ac mae'n anodd weithiau, pan mae gennych anifeiliaid sy'n sâl Ail Ffermwr: ‘Ydy’ Ann: 'oherwydd mae'n rhaid i chi wneud popeth arall hefyd.' Ail Ffermwr: 'Wel, roeddwn i wedi prynu bochdew i fy mab pan oedd yn ddwy flwydd oed fel ei fod yn gallu cael ei fagu gyda'r creadur. D’yn nhw ddim yn byw’n hir, felly gallai ddechrau'r broses honno. Ac roedd hynny wedi gweithio i raddau. Ann: ‘Oedd’ Ail Ffermwr: 'I raddau. Fel ei fod yn gallu dysgu hynny. A dyna beth sy'n digwydd.’ Ann: 'Mae'n drist bob amser, ond mae'n rhaid i chi’i dderbyn mewn gwirionedd.' Ail Ffermwr: 'Oes, yn enwedig os ydych chi wedi gwneud eich gorau. Does fawr ddim byd arall y gallwch chi’i wneud.' Ann: Na. Ail Ffermwr: 'Mae'n rhwystredig pan rydych chi wedi gwneud eich gorau, ac yn meddwl eich bod chi'n gwneud cynnydd...' Ann: 'Ac yna mae'r anifail yn marw' Ail Ffermwr: 'Ac rydych chi'n cyrraedd ac maen nhw wedi...' Ann: Wel, yn union, ac weithiau ‘dych chi ddim am weld anifail yn dioddef, ond os yw’n sâl rydych yn rhoi meddyginiaeth iddo ac yn ceisio gofalu amdano, ac yna rydych chi'n meddwl, ar ba bwynt ydych chi'n...' Ail Ffermwr: ‘rhoi’r gorau i helpu.’ Ann: 'A gwneud y penderfyniad hwnnw, ie. Mae'n anodd, rhaid dweud bod hynny'n anodd i fi.' Ail Ffermwr: 'Ydy, oherwydd rydych chi'n dueddol o feithrin perthynas â'r rhai sâl.' Ann: 'Ti'n iawn. Dwi wedi cadw cwpl o anifeiliaid sydd wedi gwella [chwerthin] ac achos eich bod wedi meithrin perthynas â nhw, ‘dych chi'n meddwl, alla i ddim eu hanfon bant nawr i’w troi’n selsig. Ail Ffermwr: 'O achos bod ganddynt enw erbyn hynny, a dyna ni. Unwaith mae ganddyn nhw enw...’ Ann: ‘Dwi’n gwybod. Mae cwpwl o hen anifeiliaid gyda ni fan hyn ond oes?' Ail Ffermwr: ‘Oes. Mae ganddyn nhw bersonoliaethau gwahanol. Dyw e ddim…’ Ann: ‘Dwi’n gwbod. Dwi'n fwy trist am... dwi'n dwlu ar y gwartheg, ond y moch, mae rhywbeth am y moch. Mae ganddyn nhw gymaint o...' Ann + Ail Ffermwr: ‘bersonoliaeth.’
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment