Ysgafnu’r baich yw ei rannu: Straeon a Thirwedd Newidiol, Safbwynt Ffermwr (5)
Disgrifiadau
Ysgafnu’r baich yw ei rannu
Roedd John yn cychwyn ei yrfa ôl-raddedig pan aeth ei dad yn sâl, a galwyd arno yn y pen draw i ddychwelyd adref a pharhau â'r gwaith fferm yn absenoldeb ei dad. Roedd disgwyliadau'r teulu ac ymdeimlad John o ddyletswydd yn golygu nad oedd unrhyw ddewis arall.
Roedd Bethan yn athrawes Fathemateg nad oedd yn ymwneud â bywyd ffermio. Daeth ei phriodas â John â chyfle iddi fwynhau’r cariad at wartheg yr oedd ganddi yn ystod ei phlentyndod a dilyn camau ei mam-gu yn y byd ffermio gwartheg godro. Gyda’i gilydd gwnaethant sefydlu fferm a theulu ar erwau tir gwerthfawr o hanes teulu sy'n dyddio'n ôl dros 200 o flynyddoedd.
Er bod y fferm wedi tynnu Bethan a John i ffwrdd o'u bywydau y tu hwnt iddi, nid ydynt yn teimlo unrhyw ddicter na chwerwder tuag ati. Maent yn ymfalchïo yn eu bywydau; ac yn gweld eu lle yn y byd fel un sy'n cynnwys cyfraniadau cymunedol a phwysigrwydd gwarchodaeth.
Mae eu profiad wedi meithrin cydnabyddiaeth o'r effaith y mae eu penderfyniadau'n ei chael ar eu plant. O gofio hyn, maent yn ymdrechu i ddarparu bywyd llawn profiadau ar y fferm ac yn y byd tu allan, ond gan fod ganddynt hanes estynedig a chyfoethog ar y fferm deuluol hon, maen nhw'n gobeithio y bydd eu plant yn etifeddu'r fferm yn y pendraw. Er eu bod yn cydnabod mai dewis eu plant ydyw, mae gwaith Bethan a John i liniaru unrhyw bwysau'n sicrhau y gall y plant ddewis derbyn y fferm gyda breichiau agored os ydynt yn dymuno gwneud hynny pan ddaw'r amser.
Mae Mali ac Abner yn dwlu ar y fferm ac yn gweithio gyda'u rhieni ar bob cyfle, ac maent yn llawn brwdfrydedd a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.
"Pan mae gennych chi deulu, rydych chi’n helpu eich gilydd... ac os ydyn ni'n cydweithio, bydd dyfodol i ni.”
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment