Skip to main content

Mae e' yn fy ngwaed: Straeon a Thirwedd Newidiol, Safbwynt Ffermwr (1)

Disgrifiadau

Mae e' yn fy ngwaed

I Daw diwrnod David Shepherd i ben yn yr un ffordd bob dydd - drwy gerdded y daith fer o'i dir i'w ffermdy. Yma bydd yn cofnodi manylion ffermio’r diwrnod yn fanwl - ansawdd yr hadau, cynnydd twf, iechyd cnydau a phridd a newidiadau iddyn nhw, colledion, masnach, cyllid, y tywydd, faint o law a fu, galwadau ffôn, llwyddiannau a methiannau. Bydd yn gwneud yr un peth yfory a thrannoeth, fel y mae wedi'i wneud ers degawdau.Mae wedi gweithio’r tir erioed, mae wedi bod yn ei galon ers y bu'n tyfu llysiau ar gyfer gardd farchnad ei dad pan oedd yn ei arddegau. Bu farw ei dad pan roedd David yn 16 oed, a phenderfynodd ddod yn ffermwr yn ei rinwedd ei hun. Roedd ganddo lawer i’w ddysgu, ond yr hyn a ddilynodd oedd blynyddoedd o bwysau ariannol a newidiadau o ran perthynas ein cenedl â bwyd.Nawr gydag oes o brofiad y tu ôl iddo, nid yw'n ofni methu mwyach, ond mae pob tymor yn dod â her newydd. Mae'n rhaid iddo ddal ati i ddiogelu dyfodol ei fferm a'i deulu.

"Mae'n fwy na bywoliaeth yn unig, mae'n ffordd o fyw. Mae'n rhan ohonoch."

Owner:
Swansea Council Project RDP
Crëwr:
Callum Baker on behalf of Swansea Council Project RDP
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2022
Eitem wedi’i llwytho:
8/11/2022
Gwelediadau:
294
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment