Rhyddhau Gwersyll Crynhoi Bergen-Belsen, Ebrill 1945
Disgrifiadau
Rhyddhau Gwersyll Crynhoi Bergen-Belsen, Ebrill 1945. Tynnwyd y llun o dwr gwylio a ddefnyddiwyd gan warchodwyr yr Almaen gan y Rhingyll H. Oakes o Uned Ffilm a Ffotograffiaeth y Fyddin Rhif 5, is-adran o fyddin Prydain. Mae'r ddelwedd yn dangos Gwersyll Rhif 1 wedi'i wagio.
Y system gwersyll Natsïaidd
O 1933, sefydlodd yr awdurdodau Almaenig amrywiol adnoddau cadw i ddal y rhai yr oeddent yn eu diffinio fel gwrthwynebwyr gwleidyddol, ideolegol, neu hiliol i’r gyfundrefn. Yn ystod y blynyddoedd cynharaf, sefydlwyd gwersylloedd crynhoi i gadw gwrthwynebwyr gwleidyddol i’r gyfundrefn, yn cynnwys Comiwnyddion, Sosialwyr, ac undebwyr llafur Almaenig, ac
eraill o’r cylchoedd gwleidyddol y chwith a Rhyddfrydol. Roedd y gwersylloedd y tu allan i system gyfreithiol yr Almaen, sy’n golygu y gallai carcharorion gael eu cadw am gyfnod amhenodol.
Ymhen amser, yn ogystal â gwersylloedd crynhoi, ehangodd y system i gynnwys gwersylloedd llafur; gwersylloedd carcharorion rhyfel (POW); gwersylloedd trosglwyddo; a gwersylloedd a weithredodd fel canolfannau lladd, a ddisgrifiwyd fel gwersylloedd difodiant neu wersylloedd marwolaeth.
Am Gwersyll Crynhoi Bergen-Belsen
Hyd at 1943, gwersyll ar gyfer carcharorion rhyfel yn unig oedd Bergen-Belsen. Ym mis Ebrill 1943, cafodd rhan o Bergen-Belsen ei droi i fod yn wersyll preswyl cyntaf ar gyfer sifiliaid ac yn ddiweddarach, yn wersyll crynhoi. Yn ystod ei fodolaeth, roedd Bergen-Belsen yn wersyll crynhoi ar gyfer Iddewon; carcharorion rhyfel; carcharorion gwleidyddol; pobl o hil y Roma a Sinti; pobl nad oeddent yn cydymffurfio â normau cymdeithasol y Natsïaid, e.e., cardotwyr, alcoholiaid, y rhai oedd yn gaeth i gyffuriau, puteiniaid a heddychwyr (pobl oedd yn credu fod rhyfel yn anghyfiawn); pobl anabl; troseddwyr; Tystion Jehofa; a gwrywgydwyr.
Wrth i luoedd y Cynghreiriaid symud i mewn i’r Almaen ddiwedd 1944 a dechrau 1945, daeth Bergen-Belsen yn wersyll casglu ar gyfer miloedd o garcharorion Iddewig a symudwyd o wersylloedd yn agos i’r llinell flaen. Llethwyd adnoddau prin y gwersyll gan ddyfodiad y carcharorion yma, lawer ohonynt wedi goresgyn cael eu gorfodi i adael ar droed.
Erbyn diwedd mis Gorffennaf 1944, roedd tua 7,300 o garcharorion eu caethiwo yng ngwersyll Bergen-Belsen. Erbyn dechrau mis Rhagfyr 1944, roedd y nifer yma wedi cynyddu i tua 15,000, ac ym mis Chwefror 1945, roedd nifer y carcharorion wedi cynyddu i 22,000. Wrth i garcharorion a symudwyd o’r dwyrain barhau i gyrraedd, chwyddodd poblogaeth y gwersyll i dros 60,000 erbyn 15 Ebrill 1945.
Erbyn dechrau 1945, byddai carcharorion weithiau’n mynd heb fwyd am ddyddiau; roedd dŵr ffres yn brin hefyd. Roedd glanweithdra’n eithriadol o annigonol, gydag ond ychydig o dai bach a thapiau dŵr ar gyfer y degau o filoedd o garcharorion. Arweiniodd gorboblogi, amodau glanweithdra gwael, a phrinder bwyd, dŵr, a chysgod i achosion o heintiau megis teiffws, twbercwlosis, twymyn teiffoid, a dysentri gan achosi nifer cynyddol o farwolaethau. Yn ystod misoedd cyntaf 1945, bu farw degau o filoedd o garcharorion. Un ohonynt oedd y ddyddiadurwraig Anne Frank.
Ffynonellau
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment