Clip sain o gyfweliad hanes llafar gyda Leslie Hardman: mynd i mewn i Wersyll Crynhoi Bergen-Belsen, 22 Medi 1997
Disgrifiadau
Recordiwyd y clip sain hwn o gyfweliad hanes llafar gyda Leslie Hardman gan yr Imperial War Museums ar 22 Medi 1997. Yn y clip, mae Leslie yn sôn am fynd i mewn i Wersyll Crynhoi Bergen-Belsen.
Leslie Hardman - bywgraffiad byr.
Ganwyd y Parchedig Leslie Hardman yng Nglyn-nedd, ger Castell Nedd, yn 1913, i deulu Iddewig. Symudodd i Fanceinion yn blentyn, gan hyfforddi i fod yn rabi, a chael swydd fel gweinidog yn Leeds yn 1936. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth yn gaplan yn y fyddin a’i anfon i Wlad Belg a’r Iseldiroedd. Wedi i’w uned groesi i mewn i’r Almaen, fe oedd y caplan Iddewig cyntaf o Fyddin Prydain i fynd i mewn i wersyll crynhoi Bergen-Belsen. Goruchwyliodd gladdedigaethau 20,000 o anffodusion y gwersyll. Gwasanaethodd yn ddiweddarach fel rabi yn Synagog Unedig Hendon yn Llundain.
Trawsgrifiad
Cyrhaeddais y clwydi, ar y dechrau roedd y milwyr yn gwrthod mynediad i mi, rwy’n credu am eu bod yn ofnus iawn, yn llawn nerfau. Beth bynnag, llwyddais i gael mynediad o’r diwedd…i’r clwydi, roedd merch ifanc yno…merch ifanc, menyw ifanc o bosibl. Sylwodd ar y Magen David ar fy iwnifform, felly gwelodd mai Iddew oeddwn i, wel roedd hi eisiau rhedeg ataf i a’nghofleidio. Roedd hi’n edrych mor atgas nes i mi, i mi gamu’n ôl, ac wrth iddi symud ymlaen, roedd hi…roedd hi’n debygol o syrthio, ond llwyddais i reoli fy hun a’i chadw, a’i chadw ar ei thraed. Ac yna, wrth i ni gerdded rhai llathenni wedyn, roedd tuag wyth neu ddeg o bobl yn gorwedd ar y llawr. Felly dyma fi’n dweud, ‘Pam nad oes unrhyw gabanau?’ – roedd rhai cabanau gerllaw – dywedodd, ‘Maen nhw wedi marw! Felly byddwn ni i gyd yn farw os na ddaw mwy o help…yn sydyn.’ Felly, wedyn…symudais, ond yna dyma fi’n cyfarfod â thair neu bedair o fenywod allai siarad â mi, ac yna dyma fi’n dechrau dysgu am y pethau echrydus, arswydus wnaeth y Natsïaid.
Ffynhonnell.
Amgueddfeydd Rhyfel Imperialaidd, cyfweliad hanes llafar gyda Leslie Hardman, 22 Medi 1997 [cyrchwyd 17 Awst 2022]
Storfa: Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment