Clip sain o gyfweliad hanes llafar gyda Colin Edward Anson: newid ei enw er mwyn ymuno â X Troop, 11 Chwefror 1991
Disgrifiadau
Recordiwyd y clip sain hwn o gyfweliad hanes llafar gyda Colin Edward Anson gan yr Imperial War Museums ar 11 Chwefror 1991. Yn y clip, mae Colin yn disgrifio sut y newidiodd ei enw i ymuno â X Troop.
Colin Edward Anson - bywgraffiad byr
Ganed Colin Edward Anson yn Claus Leopold Octavio Ascher yn Berlin yn 1922. Arestiwyd ei dad gan y Natsïaid a bu farw yng ngwersyll crynhoi Dachau yn 1937. Ffodd Colin i Brydain ar y Kindertransport ym mis Chwefror 1939. Llwyddodd i osgoi cael ei garcharu ac ymunodd â’r Pioneer Corps, cyn cael ei drosglwyddo i X Troop. Cafodd ei anafu’n ddifrifol yn gwasanaethu yn Sicily yn 1943. Yn dilyn llawdriniaeth ar yr ymennydd, ail-ymunodd â’i uned ac ymladd yn [gyn] Iwgoslafia a’r Eidal. Ar ôl y rhyfel, bu’n gweithio yn yr Almaen yn ystod y broses ddadnatsieiddio. Priododd â’i gydffoadur Alice Gross a gweithiodd i wahanol gwmnïau teithio yn Llundain. Bu farw yn 2016.
Trawsgrifiad
Roedd fy enw yn dipyn o anhawster oherwydd roedd nifer o bobl eraill yr oedd eu henw’n dechrau gydag ‘A’ ac roedd tueddiad i ddewis enw lle byddai eich cyfenw a’ch enw cyntaf â’r un llythrennau blaen – rhag ofn bod hancesi wedi’u brodio, neu beth – ac Andrews ac Anderson, roedd yr holl ‘As’ amlwg eisoes wedi eu defnyddio. Ond ar yr eiliad honno, digwyddodd Avro Anson hedfan uwchben, a’m tarodd fi fel enw byr a dymunol iawn, ac enw nad yw’n gyffredin iawn, felly y funud honno deuthum yn Anson, a daeth y Claus yn fy enw gwreiddiol yn Colin. Dewisais yr enw canol Edward yn y fan a’r lle, oherwydd edrychodd Capten Hilton-Jones i fyny a dweud, ‘Dim enw canol? Mae’n arferol cael enw canol.’ Felly, yn syml iawn, dewisais hwnnw ar hap, a dyna sut y newidiodd Claus Leopold Octavio Ascher yn Colin Edward Anson.
Ffynhonnell
Amgueddfeydd Rhyfel Imperialaidd, cyfweliad hanes llafar gyda Colin Edward Anson, 11 Chwefror 1991 [cyrchwyd 20 Gorffennaf 2022]
The Newsroom, ‘Obituary: Colin and Alice Anson’, yn The Scotsman, 19 Gorffennaf 2016 [cyrchwyd 15 Awst 2022]
Storfa: Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment