Clip sain o gyfweliad hanes llafar gyda Herbert Patrick Anderson: ei amser yn Sir Gaerfyrddin gyda'r Pioneer Corps, 25 Tachwedd 1998
Disgrifiadau
Recordiwyd y clip sain hwn o gyfweliad hanes llafar gyda Herbert Patrick Anderson gan yr Imperial War Museums ar 25 Tachwedd 1998. Yn y clip, mae Herbert yn disgrifio ei amser yn Sir Gaerfyrddin gyda'r Pioneer Corps.
Herbert Patrick Anderson - bywgraffiad byr
Ganed Herbert Patrick Anderson yn 1913 yn yr Almaen fel Helmut Herbert Fürst. Yn un oed, symudodd i Fienna, Awstria. Cyrhaeddodd Brydain ym mis Mawrth 1939. Ar ôl dechrau’r rhyfel, llwyddodd i dderbyn statws ‘estron cyfeillgar’, a’i galluogodd i ymuno â’r Pioneer Corps. Bu’n gweithio yn Le Havre yn Ffrainc o fis Mawrth 1940 ond dychwelodd i Brydain yn dilyn enciliad Dunkirk. Cafodd ei adleoli i Gymru a bu’n ffodus i ddianc o ddamwain â ffrwydryn tir yn Noc Penfro a laddodd 19 o filwyr, gan gynnwys tri ffoadur Almaenig-Iddewig. Symudwyd ei uned wedyn i Gaerfyrddin. Gwasanaethodd yn ddiweddarach yng Ngwlad Belg, yr Iseldiroedd a’r Almaen, a daeth yn ddinesydd Prydeinig yn 1947. Bu farw Herbert yn Norfolk yn 2004.
Trawsgrifiad
Ar ôl hir a hwyr, cyrhaeddais i Gaerfyrddin, yng ngofal grŵp bychan o tua 20 o ddynion. Roedd gennym ddyletswydd hynod o chwerthinllyd. Roeddem i gloddio tyllau i’r pridd mewn gwahanol fannau ledled y sir. Yn y tyllau hyn a oedd bron yn mor uchel â pherson, gosodwyd ciosgau pren a sedd, a’r syniad oedd y byddai dynion yn cael eu gosod yn y tyllau hyn, wedi’u cysylltu â’i gilydd dros y ffôn, os byddai goresgyniad yn cymryd lle. Gwnaethom y gwaith. Pob bore byddem yn cychwyn mewn lori, mynd i le arall, ar hyd a lled Sir Gaerfyrddin, a meddwl tybed pam, oherwydd pwy ar y ddaear, petaech chi’n Hitler neu’n un o’i gadlywyddion, fyddai’n rhagweld goresgyniad o Brydain drwy ddechrau yn ne Cymru? Byddai’n rhaid iddyn nhw ddod o gwmpas de-orllewin Lloegr, oni fyddai? […] Wel, roddodd yr Almaenwyr ddim cynnig ar wneud hynny a dydyn ni felly ddim yn gwybod – roedden ni’n…dwi’n meddwl yn aml a ydyn nhw’n dal i fodoli mewn ambell le ar hyd a lled Sir Gaerfyrddin o hyd.
Ffynhonnell
Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol, Cyfweliad hanes llafar gyda Herbert Patrick Anderson, 25 Tachwedd 1998 [cyrchwyd 15 Awst 2022]
Storfa: Amgueddfeydd Rhyfel Ymerodrol.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment