Dreser a'i chynhwysion o Gil-y-cwm, 18fed ganrif
Disgrifiadau
Dreser Gymreig wedi'i dyddio tua'r flwyddyn 1780, gyda gosodiadau pres a haearn. Uchder 215cm, lled 197cm, dyfnder 64cm. Mae'r ddreser Georgaidd hon yn ddarn mawreddog o ddodrefn a oedd unwaith yn llenwi wal gyfan mewn ffermdy yng Nghil-y-cwm. Mae gan y ddreser dderw hon fwrdd potiau agored, tri drôr yn y gwaelod ac yn y rhan uchaf mae tair silff agored. Fe'i gwnaed ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, gan wneuthurwr lleol yn ôl pob tebyg. Mae'r pigynau crwn ar y ddwy gornel ar y gwaelod yn nodwedd gyffredin mewn dreseri diweddarach yn yr ardal. Mae gwneuthurwr y ddreser wedi pwysleisio ei ymddangosiad drwy adeiladu rhan uchaf sy'n lletach ar y top nag ar y gwaelod. Yn ychwanegol, mae ochrau'r rhan uchaf yn meinhau tuag at eu gwaelodion. Y nodweddion hyn sy'n rhoi cymeriad mawreddog i'r ddreser. Gadawyd y ddreser mewn ewyllys i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin gyda'i llestri gwreiddiol. Er ei fod yn ddodrefnyn o'r 18fed ganrif, mae'r cerameg yn perthyn i'r 19eg ganrif. Gwnaed y llestri cinio patrwm helyg, jygiau lystar copr a chrochenwaith coegwych wedi'i beintio â llaw yn ôl pob tebyg yn Swydd Stafford. Ceir 13 plât cig, 22 plât cinio a 39 jwg ar y ddreser.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment