Phil Bennett gan Dorrien
Phil Bennett gan Dorrien
Disgrifiadau
Chwaraeodd Phil Bennet dros Lanelli ac enillodd 29 o gapiau yn safle'r maswr dros Gymru rhwng 1969 a 1978.
Cred nifer mai ef yw un o'r maswyr gorau erioed i wisgo'r crys coch. Ar daith i Dde Affrica ym 1974, fe sgoriodd 103 o bwyntiau mewn 11 o ymddangosiadau; mae ef a Gareth Edwards yn rhannu'r record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau yn safle'r hanerwyr dros Gymru (25). Cafodd gyfnod gwych fel capten Cymru, yn ennill saith gêm allan o wyth, rhediad sy'n cynnwys dwy Goron Driphlyg a Champ Lawn.
[Yn seiliedig ar 'Giants of Post-War Welsh Rugby', golygwyd gan Clive Rowlands a David Farmer, 1991, tudalen 81]
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment