Skip to main content

Medal Afghan a wobrwywyd i'r Cadfridog Syr William Nott ym 1842

Disgrifiadau

Honnir mai'r Cadfridog Syr William Nott (1782-1845) yw milwr enwocaf Caerfyrddin. Ymunodd William â Chwmni Dwyrain yr India ym 1800 ac fe'i benodwyd i Gatrawd Ewropeaidd Bengâl. O 1804 ymlaen datblygodd ei yrfa filwrol, ond yn y Rhyfel Afghan Cyntaf yr amlygodd Nott ei hun fel arweinydd milwrol a chafodd ei ddyrchafu yn Uwchfrigadydd. Ym 1842, enillodd dair brwydr a drodd y fantol, yn Kandahar, Ghuznee, a Kabul. O ganlyniad, derbyniodd Nott gryn gymeradwyaeth a chafodd ei arwisgo gydag urdd y GCB. Dioddefodd ei iechyd yn fawr yn y Dwyrain, ac ym 1844, dychwelodd i Gaerfyrddin lle bu farw o fewn pedwar mis. Fe'i gladdwyd yn Eglwys Sant Pedr a'i anrhydeddu drwy godi cerflun coffaol yn Stryd y Farchnad (erbyn heddiw, Sgwâr Nott).

Owner:
Carmarthenshire County Museum
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Copyright Details:
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin 2003
Publisher Ref:
GTJ23022
Eitem wedi’i llwytho:
29/9/2009
Date originally created:
1842
Gwelediadau:
1009
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment