Cyfweliad hanes llafar gydag Angela Nation Barnes, Windrush Cymru, Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019 (Rhan 2)
Disgrifiadau
"“Roeddwn i’n mwynhau cwmni fy nheulu... wrth gwrs, roedd yna adegau garw ac anodd ...”
Ganed Angela Barnes yn Kingston, Jamaica, yn 1956. Fe gyrhaeddodd ddociau Southampton gyda’i thad yn 13 mlwydd oed yn 1971.
“Fe gefais fy magu yn yr eglwys i fynychu’r ysgol Sul... fe wnaeth hynny les i mi, roedd yn hadyn da a blannwyd yn fy mywyd.”
“Fy uchelgais i’r dyfodol [oedd] i fod yn stenograffydd.”
“Roedd yn sioc ddiwylliannol i mi. Rwy’n cofio’r pryd cyntaf o bastai stêc a ’lwlod... a meddyliais, ‘O, mae hwn yn eithaf blasus’.”
“Roedd fy nhad yn berchennog caffi yn Stryd Bute, [o’r enw] Nations Café, Arferai [pobl] ddod draw a chwarae dominos yno... roedd fy nhad yn lletygar iawn [roedd yno] cymuned braf a chyfeillgar.”
“Rwy’n cofio cymaint a ddysgais i gartref... roeddwn i’n rhan o’r gymuned oherwydd fy nghoginio, yn creu fy rysetiau fy hun... roeddwn i’n arfer coginio pan roedden ni’n [mynd i’r] blues, twmplins wedi’u ffrio a physgod hallt, ond rwyf wedi coginio reis a phys a chyw iâr ac yn y blaen... roeddwn i’n angerddol dros goginio...”
“Yn nes ymlaen yn y 70au, fe ddois i’n ail yn Miss Butetown yn y bae. [Pan] roeddwn i’n feichiog... roeddwn i’n dal i fynd ar amrywiaeth o gyrsiau... ac o’r fan honno wnes i ddatblygu yn y gymuned...”
“Rwyf wedi cael gwobr gan yr Uchel Siryf hefyd.”
“Profiad anuniongyrchol o hiliaeth gefais i... roedden nhw am fy nghadw’n ynysig... rwy’n maddau iddyn nhw oherwydd... rwy’n byw nawr fel Cristion, ac rwy’n gallu maddau, ac rwyf i wedi gwneud camgymeriadau, felly mae bodau dynol...”
“Rwy’n byw yma ers tro byd, felly rwy’ wedi dod i arfer â bywyd a dinasyddiaeth Brydeinig, ond rwy’n hiraethu am fy nghartref o hyd. Fe hoffwn yn fawr pe gallwn fynd adref bob blwyddyn... Yn fy nghalon, Jamaicaidd wyf fi.”
"
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment