Cyfweliad hanes llafar gydag Ena Radway, Windrush Cymru, Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019 (Rhan 2)
Disgrifiadau
"“Dyw pethau ddim yn aros yr un fath… fe wnaeth dynolryw wneud llanast ohoni, a throi pethau mor anghyfeillgar.”
Ganed Ena Radway yn Jamaica, ac anfonodd ei gŵr amdani yn 1962.
“Fe ddois i’r Deyrnas Unedig ddiwedd Mawrth 1962; roeddwn i’n 25 mlwydd oed""
""Roeddwn i’n briod a fy ngŵr ddaeth gyntaf, tua naw mis ynghynt. Teithiwr oedd e erioed, fy ngŵr, ac fe anfonodd amdanaf i. Fel y gwyddoch, gwahoddodd y Frenhines ni i ddod i’r wlad hon... os gallech chi fforddio talu am eich tocyn llong.
""Roedden ni’n ddeiliaid Prydeinig bryd hynny, cyn i Jamaica gael annibyniaeth. Dechreuodd pethau ddatod, ac yna dechreuodd y problemau"".
""Fy swydd gyntaf mewn ysbyty oedd yng Nglanelái, Tyllgoed, Caerdydd... [fe wnes i] chwe blynedd o shifftiau nos pan roedd fy mhlant yn ifanc"".
""Roeddwn i eisiau gweithio yn y Gwent... felly yn 1972, fe ges i ffurflen ac fe es i am gyfweliad a chael y swydd. Fe wnes i weithio 18 mlynedd ar shifftiau nos nes roedd fy mhlant ieuengaf yn gallu bod ar eu pennau eu hunain. Swydd yn ystod y dydd oedd gan fy ngŵr. Yna fe ddechreuais i weithio’r shifft ddydd"".
""Doeddwn i ddim yn meddwl [y buaswn i] yn y wlad hon wedi ymddeol, oherwydd roedd pawb yn dod yma ac yn dweud eu bod am aros am bum mlynedd a mynd yn ôl"".
""Doedd gan fy rhieni ddim llawer, ond roedden nhw wedi rhoi popeth y gallent ei fforddio i ni... roedden ni’n gobeithio, wrth ddod yma, y bydden ni’n gallu eu helpu nhw"".
""Fy nerth i ddal ati yw Duw. Rwy’n gwneud beth bynnag sydd o fewn fy ngallu i helpu"".
""Wn i ddim beth sy’n fy nisgwyl yn y dyfodol, ond am y tro, rwy’n teimlo fy mod wedi setlo.”
"
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment