Clip sain o gyfweliad hanes llafar gyda Dorothy Fleming: 'Taith Kindertransport’, 27 Mawrth 1996
Disgrifiadau
Daw'r clip sain hwn o gyfweliad gyda Dorothy Fleming, a recordiwyd gan yr Imperial War Museums ar 27 Mawrth 1996. Yn y clip, mae Dorothy yn trafod ei thaith ar Kindertransport i Loegr ym mis Ionawr 1939.
Trawsgrifiad.
Nid ydym yn hollol siŵr sut wnaeth fy rhieni glywed am y Kindertransport, oherwydd nad oeddent “o gwmpas”, ond rydym yn credu bod rhaid bod y gymuned Iddewig wedi defnyddio pobl ifanc fel Boy Scouts i fynd i gartrefi lle roeddent yn gwybod bod teuluoedd â phlant ac esbonio iddynt bod y cyfle hwn yn bodoli. Ac mewn gwirionedd, mae’r ffurflenni cais gennym ni – dau – un i mi, ac yn fuan wedi hynny, un ar gyfer fy chwaer a minnau.
[...]
Fe wyddoch bod pwyllgorau wedi cael eu ffurfio yma ledled y wlad – rhai Iddewig a rhai oedd ddim yn Iddewig – i geisio dod o hyd i lefydd i’r plant i fynd, gan bod y llywodraeth wedi dweud y byddent yn derbyn 10,000 o blant Iddewig a fyddai heb gydymaith gyda nhw.
[...]
Ac felly, roedd fy rhieni’n barod i’n hanfon ni, i’r wlad hon, yn hyderus y byddent yn ein dilyn.
[...]
Felly, cawsom le a mi wnaethom ni adael ar y 10fed o Ionawr am Loegr ac mewn gwirionedd, mae hwnnw’n stori ddramatig iawn. Fy rhieni... roeddem ni, roeddem ni’n cael un bag o eiddo yr un, ac fe aethon nhw â ni i’r Western Railway Station gyda’r nos – roedd hi wastad yn ystod y nos – ac roedden nhw’n gall iawn, roedden nhw’n ffarwelio, ac roedden nhw ar fin gadael. Ond roeddwn yn gwybod bod llawer o bobl wedi torri eu calonnau, a rhai hyd yn oed yn cipio eu plant yn ôl; nid oedden nhw’n medru gadael iddynt fynd. Ond fe aethon ni i mewn i gerbyd a oedd yn gymharol llawn o blant, a rhyngom ni, mi benderfynodd y rhai hŷn y byddai’r rhai iau yn mynd ar y rac bagiau, a oedd wedi’i wneud o rwydenni; gan y byddent yn fwy cyfforddus i fyny yno. Felly, fe wnaethom ni roi fy chwaer fach i fyny yno, ac yn sydyn iawn, roedd hi’n sâl; a oedd yn ddefnyddiol iawn mewn gwirionedd, oherwydd roeddwn i’n brysur iawn dros yr hanner awr ganlynol, a dywedodd fy rhieni “edrych ar ôl dy chwaer, mae’n rhaid i ni fynd nawr, ac mi wnawn ni eich dilyn chi yn fuan. Ta-ra,” ac i ffwrdd â nhw, a oedd yn gall iawn. Ac yn wir, fe wnaethant ddilyn yn y pen draw.
Nawr, mi gychwynnodd y daith gyda sïon ledled y trên y byddai’r Natsïaid yn dod i archwilio ein papurau a’n bagiau yn fuan, ar ôl cyrraedd y ffin. Os byddent yn dod o hyd i unrhyw beth na ddylem ni fod wedi dod gyda ni, efallai y byddem ni’n cael ein hanfon yn ôl neu byddai helynt. Ac nid sïon oedden nhw, roedd y straeon yn wir, ac yn ein plith, roedd llanc ifanc tua un ar ddeg, a oedd wedi cael oriawr aur ei teulu gan ei dad – watsh boced – ac mi wnaeth banicio’n llwyr wrth feddwl y byddai’r Natsïaid yn darganfod y watsh. Felly, fe ollyngodd y watsh drwy agoriad cul mewn awyrydd, ac ni ddaethon nhw o hyd iddo, ac fe wnaethom ni groesi’r ffin ar ôl cael ein harchwilio ac fe wnaethom ni i gyd anadlu ochenaid fawr o ryddhad, oherwydd roedd yn frawychus iawn. Ac, wrth gwrs, o’r eiliad honno ymlaen roedd yn ffidlan o gwmpas yn ceisio cael yr oriawr allan, ac ni wnaeth lwyddo. Ac rwy’n cofio dweud wrtho, gyda fy holl ddoethineb yn ddeg mlwydd a hanner, “Edrycha, dim ond watsh ydy o. Bydd dy dad yn hapus iawn dy fod di wedi goroesi.” Ond roedd o mewn gofid enfawr. Rwy’n credu mai’r rheswm iddo gael yr watsh oedd yn rhannol fel, fel trysor teuluol, ond hefyd, byddai ei dad wedi meddwl efallai y gallai werthu’r watsh ac efallai byw oddi ar y pres. Mae yna hefyd luniau o, o blant a ddaeth gyda ffidil – eto, efallai yn rhannol er mwyn eu gwerthu, yn rhannol i wneud bywoliaeth.
Dorothy Fleming - bywgraffiad byr.
Ganed Dorothy Fleming yn Dora Oppenheimer yn Fienna, Awstria, yn 1928. Roedd hi'n byw mewn fflat mawr ym mhumed ardal Fienna gyda'i thad oedd yn optegydd, ei mam a'i chwaer iau. Roedd eu bywyd yn llawn a hapus. Roeddent yn mwynhau opera, sglefrio iâ a cherddoriaeth. Mynychodd Dorothy y Kindergarten lleol ac yna ysgol gynradd yn Fienna.
Pan oedd Dorothy yn ddeg oed, cymerodd Natsïaid-Almaen reolaeth ar Awstria yn yr hyn a elwid yn Anschluss. Ar ôl yr Anschluss newidiodd bywyd yn ddramatig i Dorothy a'i theulu. Yn fuan nid oedd yn gallu mynd i'w hysgol arferol. Ac ar ôl y Kristallnacht, collodd ei thad ei ddwy siop optegydd. Wedi'i gadael heb unrhyw ddewis arall, trefnodd ei rhieni i Dorothy a'i chwaer deithio i Brydain ar Kindertransport gan addo y byddent yn dilyn yn ddiweddarach.
Ar ôl teithio i Brydain, bu Dorothy yn byw yn Leeds gyda'i rhieni maeth. Yn y diwedd, llwyddodd ei rhieni i ymuno â Dorothy a’i chwaer, ac roedden nhw’n byw yn Llundain mewn fflat bach gyda ffoaduriaid eraill. Roedd gan Dorothy ewythr yn Ne Cymru a oedd wedi sefydlu ffatri ar Ystad Fasnachu Trefforest a threuliodd beth amser yn byw gydag ef. Wedi cyfnod pan gafodd ei thad ei garcharu ar Ynys Manaw, yn y diwedd llwyddodd ei theulu cyfan i ymgartrefu yng Nghaerdydd. Roedd ei thad hefyd yn gweithio ar Stad Fasnachu Trefforest yn gwneud nwyddau optegol ar gyfer y rhyfel. Yng Nghaerdydd, mynychodd Dorothy Ysgol Howell's. Yn ddiweddarach aeth i brifysgol yng Nghaerfaddon a daeth yn athrawes.
Ffynhonnell:
IWM">https://www.iwm.org.uk/collections/item/object/80016068">IWM, Fleming, Dorothy (Oral History) [cyrchwyd 24 Tachwedd 2021]
Storfa: Imperial War Museums, catalogue number: 16600.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment