Pont Aberglaslyn gan Annie Cummings
Disgrifiadau
Mae'r bont hon, sy'n croesi afon Glaslyn ar ben deheuol Bwlch Aberglaslyn ac mae darluniau a phaentiadau niferus wedi ei chreu ohoni dros y blynyddoedd gan rai o artistiaid dyfrlliw enwocaf Prydain, yn cynnwys Paul Sandby, Francis Towne, JMW Turner, Cotman, Cox a John Varley. Fe'i hadeiladwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg, a chafodd ei hailadeiladu a'i lledu yn ystod y 1790'au. Codwyd Tŷ'r Bont yng nghanol y 1800’au. Cyn i'r Cob gael ei adeiladu ar draws morfa Glaslyn, roedd y bont yn un oedd yn cael ei rheoli gan y llanw a byddai modd ei chroesi trwy fynd â chwch bychan ati. Yn union uwchben y bont, ceid llamfa eogiaid. Ond mae'n ymddangos nad oedd yn bodoli erbyn i'r paentiad hwn gael ei gwblhau, er ei fod i'w weld yn nifer o baentiadau a darluniadau cynharach o'r bont o edrych arni yn is i lawr yr afon.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment