Parc y Rhath - 'A Park of Our Time'
Disgrifiadau
Mae “A Park for Our Time” yn tynnu sylw at safleoedd treftadaeth lleol sy'n bwysig ar gyfer ein iechyd a'n lles. Mae'n rhan o'r gyfres 15 Minute Heritage a ariennir gan y Gronfa Dreftadaeth / CADW a Llywodraeth Cymru. Mae'r parc wedi bod yn fan diogel i breswylwyr Caerdydd a gweithwyr NHS, o Ysbyty'r Rhath gerllaw, yn ystod y pandemig a'r cyfnodau clo. Yn ystod y chwe mis diwethaf cafodd dros ddau gant o unigolion o bob oedran, o rai sydd a diddordeb mewn chwaraeon i rai sy'n cerdded yn ddyddiol, wedi cael eu ffilmio, eu cyfweld a chael tynnu llun. Mae'r ffotograffwyr Tomos Kay a Tom Gower wedi dal rhai o'r bobl hynny sy'n defnyddio'r parc yn rheolaidd, ac mae Ysgol Gynradd Birchgrove wedi cyfansoddi cân i gyd-fynd gyda'r ffilm 15 munud gafodd ei dangos mewn Neuaddau Cymuned yng ngogledd Caerdydd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment