Ffotograff o brint o Iolo Morganwg (Edward Williams, 1747-1826)
Disgrifiadau
Tynnwyd y ffotograff hwn gan John Thomas, tua'r flwyddyn 1875.
Ganed Iolo Morganwg (Edward Williams, 1747-1826) ym mhlwyf Llancarfan, Sir Forgannwg, yn fab i Edward ac Anne Williams. Saer maen oedd ei dad. Dywedodd Iolo mai trwy wylio ei dad yn torri llythrennau ar gerrig beddau y dysgodd yntau ddarllen. Roedd ei fam yn ddynes ddiwylliedig ac yn aelod o deulu bonheddig Mathews, Llandaf a Radur.
Meistrolodd Iolo grefft ei dad, ac ym 1773 aeth i Lundain i chwilio am waith.Yno, trwy fynychu cyfarfodydd bywiog Cymdeithas y Gwyneddigion, daeth yn rhan o fywyd Cymraeg y ddinas. Wedi gweithio mewn gwahanol rannau o Loegr, dychwelodd i Fro Morgannwg ym 1777; ac ym 1781 priododd Margaret Roberts. Yn ystod 1786-7, ar ôl cyfnod helbulus fel dyn busnes, bu Iolo yng ngharchar y dyledwyr yng Nghaerdydd. Credir mai ffrwyth ei flwyddyn o garchar oedd un o'i ffugiadau mwyaf gorchestol, Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain.
Ym 1791, dychwelodd i Lundain, gan honni, mewn cylchoedd llenyddol Cymraeg a Saesneg, mai efe oedd etifedd holl gyfrinachau'r Derwyddon. Ym 1792, ar ben Bryn y Briallu, yn Llundain, cynhaliodd seremoni gyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Yn ddiweddarach daeth y ddefod i fod yn un o brif weithgareddau yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dychwelodd Iolo i Gymru ym 1795, a dechreuodd gasglu defnyddiau ar gyfer gwaith mawr ei fywyd, 'The History of the British Bards', llyfr a fyddai, yn ei dyb ef, yn egluro holl hanes a dysg y Derwyddon i'r byd. Ym 1801 ac 1807, cyhoeddwyd nifer helaeth o'i ffugiadau llenyddol yng nghyfrolau'r Myvyrian Archaiology, wedi iddo argyhoeddi'r golygyddion mai testunau a gopïodd o hen lawysgrifau oeddynt. Er hynny, ni lwyddodd i ysgrifennu 'The History of the Bards'. Bu farw ym 1826, gan adael casgliad anferth o lawysgrifau ar ei ôl. Mae'r casgliad hwnnw bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Darllenwyd papurau Iolo yn eiddgar gan ei edmygwyr yn ystod y 19eg ganrif; ac ni ddinoethwyd ei dwyll tan yr 20fed ganrif, trwy ysgolheictod Griffith John Williams. Daethpwyd hefyd i werthfawrogi mawredd Iolo fel bardd a gweledydd: un o'r ffugwyr mwyaf toreithiog ac athrylithgar yn hanes llenyddiaeth.
Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment