Skip to main content

Y canwr James Sauvage (1849-1922) ym 1877

Disgrifiadau

Tynnwyd y ffotograff gan John Thomas.

Roedd James Sauvage (1849-1922) yn ŵyr i frodor o Gernyw a ddaeth i fyw i Rosllannerchrugog yn y 1790au. Ymhen blynyddoedd daeth Sauvage yn adnabyddus fel un o brif unawdwyr ac athrawon bariton ei oes ym Mhrydain ac yn Unol Daleithiau America. Cafodd ei fagu yng nghanol traddodiad cerddorol Anghydffurfiol capeli'r Rhos ac ym 1868 gadawodd ei waith fel glöwr ac aeth i'r Unol Daleithiau i ymuno â'i gefnder yn Ohio. Hon fyddai'r gyntaf o nifer o deithiau ar draws yr Iwerydd i Sauvage.

Ym 1869 cyfarfu James â Lewis William Lewis (Llew Llwyfo) ac Ellen, ei ferch hynaf, yn America. Priododd Ellen gan ymuno â pharti cyngerdd teithiol ei dad-yng-nghyfraith, cyn dychwelyd i Gymru ym 1873. Y flwyddyn ganlynol treuliodd gyfnod yn Aberystwyth yn astudio wrth draed Joseph Parry ac yno dechreuodd wneud enw i'w hun fel unawdydd.

Aeth i'r Academi Gerdd Frenhinol ym 1878, gan newid llais o denor i fariton, ac enillodd nifer o'r prif fedalau. Erbyn 1880 roedd yn gwneud bywoliaeth dda fel unawdydd mewn oratorios ac operâu. Ym 1888 penderfynodd ddychwelyd ar ymweliad byr i'r Unol Daleithiau cyn penderfynu ymsefydlu yno yn barhaol gyda'i deulu ym 1890.

Daeth yn adnabyddus yn fuan iawn yn Nhalaith Efrog Newydd fel cyfarwyddwr ac unawdydd yn Eglwys Goffa Peddie, Newark, ac fe'i penodwyd yn Athro Cerddoriaeth yng Ngholeg Vassar ym 1892. Daeth yn enw adnabyddus iawn yn y byd cerddorol gan ennill bywoliaeth dda. Naw mlynedd yn ddiweddarach dychwelodd i Gymru lle cafodd dderbyniad gwresog. O 1910 ymlaen bu'n ymweld â Chymru yn flynyddol, gan deithio ar longau Cunard, ac eithrio yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Mawr (1915-18). Ym mis Mai 1915, suddwyd llong deithwyr y Lusitania gan longau tanfor Almaenig, a phenderfynodd Sauvage na fyddai'n teithio ar draws yr Iwerydd hyd nes y byddai'r rhyfel yn dod i ben.

Er gwaethaf ei boblogrwydd a'i enwogrwydd, arhosodd Sauvage yn gymeriad hoffus a gwylaidd. Bu farw ym 1922 a gellir ei ystyried ymhlith un o nifer fawr o unawdwyr a cherddorion a fu'n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod y 1870au cyn mynd ymlaen i'r Academi Frenhinol a chael gyrfa lewyrchus yng Nghymru, Lloegr ac Unol Daleithiau America.

Disgrifiad: Eryl Wyn Rowlands

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Thomas, John
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2001
Publisher Ref:
GTJ13079
Eitem wedi’i llwytho:
2/9/2009
Date originally created:
1877
Gwelediadau:
1695
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment