Ffotograff o ran o ddyddiadur Howel Harris ar gyfer Dydd Sul 3 Ionawr, a Dydd Llun 4 Ionawr 1747
Disgrifiadau
Tynnwyd y ffotograff gan John Thomas, tua'r flwyddyn 1885.
Roedd Howel Harris (1714-73) o Drefeca, Sir Frycheiniog, yn un o arweinwyr y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru yn ystod y 18fed ganrif. Bu'n gweithio fel athro mewn ysgol yn Llan-gors cyn iddo gael troedigaeth grefyddol tra'n gwrando ar ficer Talgarth yn pregethu ym 1735. Dechreuodd bregethu yn yr ardal, ac ym 1737 cyfarfu â Daniel Rowland (?1711-90), ciwrad o Langeitho, Sir Aberteifi, a oedd wedi ysbrydoli nifer fawr o bobl gyda'i bregethu grymus. Roedd y cyfarfod hwn yn un arwyddocaol iawn gan iddo nodi dechrau'r Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru. Yn ystod y degawd dilynol, teithiodd Harris ledled Cymru, yn pregethu sawl gwaith y dydd weithiau, a chan sefydlu 'seiadau' wrth iddo fynd yn ei flaen. Roedd William Williams (Pantycelyn, 1716-91), yr emynydd adnabyddus, ymhlith y cannoedd o Gymry a gafodd droedigaeth wrth wrando ar Harris yn pregethu. Bu Harris hefyd yn efengylu yn Lloegr lle bu'n cydweithio â'r arweinwyr Methodist enwog George Whitfield a'r brodyr Wesley. Ym 1750 digwyddodd rhaniad ymhlith dilynwyr Harris a dilynwyr Daniel Rowland ('Yr Ymraniad Mawr' fel y'i gelwid), ac o'r dyddiad hwnnw rhannwyd Methodistiaeth yng Nghymru. Ymddeolodd Harris i Drefeca gyda'i ddilynwyr ym 1752, lle sefydlodd wasg argraffu. Ym 1760, fe'i cyfamodwyd â'i hen gyfeillion Rowland a John Wesley. Yn ddiweddarach, sefydlodd Iarlles Huntingdon goleg yn Nhrefeca i hyfforddi pregethwyr ifainc a bu Harris yn cynorthwyo gyda'r gwaith hwn.
Roedd Harris yn ysgrifennwr toreithiog a gadawodd ar ei ôl gasgliad mawr o bapurau personol, llythyrau a dyddiaduron. Mae'r casgliad hwn yn cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment