Skip to main content

Bay of Life: bioamrywiaeth bywiog Bae Ceredigion

Disgrifiadau

Cafodd 'The Bay of Life' ei lansio'n wreiddiol yn 2006, ac mae'n cofnodi bioamrywiaeth bywiog Bae Ceredigion; mae'n cynnwys y ffilmio tanddwr cyntaf erioed o'r dolffiniaid trwynbwl enwog a'r ffil o'r dolffiniaid cyffredin a ymddangosodd ar y newyddion rhyngwladol yn 2005. Mae Bae Ceredigion yn hafan gyfoethog ar gyfer amrywiaeth ysblennydd o fywyd gwyllt gan gynnwys dolffiniaid trwynbwl preswyl, morloi llwyd yr Iwerydd, a llamhidyddion harbwr. Mae clogwyni nythu pwysig hefyd yn y bae lle mae nythfeydd gweilch y penwaig (razorbills0, gwylogod a gwylanod coesddu yn byw. Mae 'r rhywogaethau sy'n ymweld  â'r bae yn yr haf yn cynnwys helforgwn enfawr, pysgodyn haul llai a sglefrod môr. Mae amrywiaeth eang o rywogaethau planhigion hefyd yn tyfu ar y traeth ac o dan y tonnau sy'n ffurfio'r cam cyntaf mewn amrywiaeth o gadwyni bwyd. Tra ei bod yn darparu gwybodaeth gyffredinol, cynhyrchwyd y ffilm hon yn wreiddiol fel ffilm addysgol a phan gafodd ei rhyddhau'n wreiddiol (2005/2006) roedd yn addas ar gyfer: • Gwyddoniaeth CA 2 (Bl 6) • Gwyddoniaeth a Daearyddiaeth CA 3 • TGAU Astudiaethau'r Cyfryngau • ABCh CA 2 a 3. Cefnogwyd yr adnodd hwn gyda grant gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Cynhyrchwyd y ffilm hon gan Small World Productions ar gyfer Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion (CBMWC).

Owner:
CBMWC
Crëwr:
CBMWC
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2006
Eitem wedi’i llwytho:
18/2/2021
Gwelediadau:
747
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment