Skip to main content

Tudalennau 8 a 9 o lyfr nodiadau yn eiddo i Margaret (Morris) Simcox James, Dowlais, 1863

Disgrifiadau

Trawsgrifiad (t.9b):
NODYN: Dylai'r ddelwedd ddod cyn delwedd 8a, sy'n parhau'r ddelwedd 9b.
Difethyr bob blwyddin tua
72.000.000 o fwysieli o haidd
a grawnion erill [eraill]. Gwnai y
quantity [sic] yna ddigon o flaw\d/
i gynnyrchu. 170, o dorthau.
pedwar pwys yn un, i bob ––
teilu yn flynyddol yn y d\e/yrnas
Gyfynol! pe defnyddid y torthau
hyn yn llawr-lechau, byddent
yn ddigon i balmenty ffordd
yn ddeg llath o led. ac yn 1,800,
milltir a hyd! Pe y crasid y
bara yno mewn un pop-dy ––
a 5,000, o dorthau yn cael ei
Gwneid bod dydd, Cymmeray [cymerai]
690, o flynyddau cyn y gellir
eu popi oll!! onid iw hyn yn
wastraff ar ffon bywid sef
bara; gwarir milywnau o
bunau bob bwyddin [blwyddyn] am

[Parhad yn nelwedd 8a]

Trawsgrifiad (t.8a):
NODYN: Dylai'r ddelwedd bod yn y safle yma, cyn delwedd 8a, sy'n parhau'r ddelwedd 9b.
wenith a fflwr (can) a
wledydd tramor, ar ôl
y wastraff yma. [scriblo]
[item newydd]
- datesyllty r [datgysylltu’r] Eglwis [eglwys]
Tyna iw r [yw’r] iaith datggysyllty r [datgysylltu’r]
Eglwis maint [maent] n [yn] Codi eu lleisau [lleisiau]
n [yn] swagro yn brygewthan [brygawthan], n [yn] Chwrn\i/ [chwyrnu]
yn stampio eu traed, n [yn] torchu
eu llewys, yn arllwys eu melltith-
-ion. ?ac yn eu iaith yn dywedid
fe fynwn [=mynnu] ddatgysllty r [datgysylltu’r] Eglwis:
Caiff yfed Cawl dwr, Caiff ––
fwita bara barlys, Caiff gerdded
[y]n eu Chlocs. Caiff fyw arny ei
hynnan, Caiff widow s [’s] Cap
am ei phen, ac yn lle gwnau [gwnïo/gwneud]––
sidan a satin, Caiff rai alpa-
Ca, ney [neu] linsey, tyna iw ich
Iaith; and; ond; Gwrandawed
Cader Idris, a Chlustfeined
[?F]wyn barlwm banau. –––

[parhad yn nelwedd 8b]

Nodyn: * Linsey-woolsey (less often, woolsey-linsey or in Scots, wincey) is a coarse twill or plain-woven fabric woven with a linen warp and a woollen weft. [Wikipedia]

Trawsgrifiad (t.8b):
[parhad o ddelwedd 8a]
Brcheineg [Brycheiniog], ar [a’r] wyddfa, pirth [pyrth]
Miall, [mi all] nac hyd nad pirth [pyrth]
uffern, nis gorchfygan hi
yn [yr] un peth i chwi osod
Cyfrwy ar gefn y fellten
rhaff am wddf y Corwyn\t/
; iê dwedaf gymmaynt [gymaint] a [â] hyn
Gwnewch bills [bilis?] i wella n [’n]
ddaergryn [daeargryn] os mynwch –
ac yna bydd i chwi ddifetha
Eglwis Loiger [Lloegr]. Yr \hên/ Eglwis
sydd wedi hiero [herio] Corwyntoedd
rhagfarn a llif ddyfrodd [dyfroedd]
enllib; hên eglwis y tad[au?]
ar [a’r] esgobion; hên eglwis y
tywysogion ar [a’r] brenhynoedd
; iê hên eglwis lan [glân?] Gatholig –
yr hen eglwis ac mai pob –
rhaff yn ei Chlochdy. a phob
Careg yn ei mur n [yn] Gyssegredi[g]. [cysegredig]

Trawsgrifiad (t.9a):
Englin beddargraff Dau Willi Gipps
Yma gorwedd Dau Willi
Gipps; Fe aeth ei drips ei
Gerdded; Gocheled pob
deithyr [dieithyr] ddyn: rhag syrthio
i Blith y diawlaid
[Eitem newydd – croes ymylol braidd i’w gweld]
Dinas sydd frig [gyda ‘n’ uwchben] ar y fron: ac
ni Ganodd o drigolion
Ir [i’r] y lw [ulw] hyll yr elo hon.
[Ulw = Ashes, embers, cinders, dust]
A dihanged dŷ Engion. [neu dy Engion? Anghenion, Englynion?]
[Eitem newydd – croes ymylol braidd i’w gweld]
Braint im cael bara brith =
a seig\i/au; O siwgir a llefrith
Tê dagr [?dayr] bob pla an plith,
[Eitem newydd – croes ymylol braidd i’w gweld] Dihareb?
Bob Cell a llogell a Egir
Efo undeb Cawn bendith
A ch\l/oyau, a dorau a [o] dur.
[egir eto, ar goll?]

John Morris Ivor Street Dowlais no.67
[mewn inc ysgafnach, megis yr \l/ yn uwch yn y gair ‘chlogau’]

Owner:
Scott Morris
Crëwr:
Margaret Morris
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
29/1/2021
Gwelediadau:
683
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment