Skip to main content

Tudalen 7 o lyfr nodiadau yn eiddo i Margaret (Morris) Simcox James, Dowlais, 1863

Disgrifiadau

Trawsgrifiad (t.7a):
Genyf, Hear; Hear;
Mor Gynnar yn y boreu
Dihunwch feib [meibion] a merched llon.
Os ych [y’ch] am iechyd dan eich bron.
Ymgiliodd sêr y wybren faith.
Cyfodwch oll ac at eich gwaith
Mor gynnar yn y borau:
Mor gynnar yn y borau.
Mor gynnar yn y borau.
Cyn doriad [toriad] gwawr y dydd.
Mae swn yr afon ar ei hynt
Yn cynganeddu a [â] swn [sŵn] y gwnt [gwynt]
Ar [a’r] ceiliog coch wrth fon [fôn] y berth
Sy n [sy’n] eilio i gerddi gyda nerth
Mor gynnar yn y borau &c
Arferwch fe\r/ched nawr mewn \pryd/
I ddysgu byw a thrin y byd
Rwyn caru pob merch ieuanc \lan/ [lân]
Sy n [sy’n] harddu r [’r] tŷ a chynneu\r/ tân
Mor gynnar yn y borau &c

Gweler y nodiadau ymchwil ychwanegol

[yn para yn nelwedd 7b]

Trawsgrifiad (t.7b):
[parhad o ddelwedd 7a]
Os ydwyt lencyn têg dy wedd.
Am ennill bri oroesa r [’r] bedd.
Rhayd [rhaid] bod yn effro yn y byd.
A chodi at dy wers mewn prid [pryd].
Mor gynnar yn y borau &c

X Gwr [gŵr] dâ [da]
Gwr [gŵr] [o’i] fath ma\rw/ ni fudd [fydd]
= yn ei waith;
Cawn ei weled or [o’r] newydd;
Deil ei waith dra iayth [iaith]
rydd.
A gwalia wrth ei gilydd.
X *Rahil [ba hil?] wen fydd yn dûo [a – expunged];
A natir [natur] oll n [yn] gwywo
yn sich [sychu] y berwa r [’r] moroedd
llayth [llaith].
Pan derfydd iayth y Cym\ro/:=

*Rahil = Mae’r briflythyren G yr un â 'Rhag' delwedd 11b

Owner:
Scott Morris
Crëwr:
Margaret Morris
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
29/1/2021
Gwelediadau:
574
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment