Skip to main content

Clawr Llyfryn The Boys of Old Kively

Disgrifiadau

Ar ôl llwyddiant ysgubol digwyddiad Diwrnod y Cofio yn Llyfrgell St Thomas, ymunodd SOMM â Chymdeithas Hanes Eastside i lansio'r llyfryn "The Boys of Old Kilvely". Mae'r llyfryn yn rhoi manylion am hanes y Gofeb Rhyfel yn Eglwys yr Holl Saint yng Nghilfái, Abertawe sydd bellach wedi cau ac fe;i cyflwynir er cof am filwyr a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r llyfryn yn cynnwys bywgraffiad milwrol a phersonol i bob un o'r 70 o ddynion a restrir ar y gofeb, ynghyd â barddoniaeth gan blant ysgol lleol.
Mae'r llyfryn 100 tudalen yn ffrwyth gwaith ymchwil manwl gan aelodau SOMM, gyda chymorth aelodau o grŵp Hanes Eastside a pherthnasau'r dynion a gollodd eu bywydau. Roedd hyn yn golygu ymweliadau ag archifau ac amgueddfeydd, a gwneud gwaith ymchwil ar-lein, a daeth llawer o bobl i gynnig eu cymorth. Yn ystod un o’r ymweliadau ag Archifau Abertawe y darganfuwyd bod enwau 70 o ddynion ar y gofeb, yn hytrach na'r 69 a feddyliwyd i ddechrau arni. Diolch i'r archifydd, Andrew Dulley, daethpwyd o hyd i ffotograff cynnar yn dangos enw ychwanegol, a oedd wedi gwisgo i ffwrdd dros amser nes ei fod yn amhosib ei weld mewn lluniau diweddarach.
Meddai Anita Arcari, Cadeirydd SOMM: "Ni fyddai creu'r llyfryn hwn wedi bod yn bosib yn ariannol heb y dyfarniad grant gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer ein prosiect diweddar, "Cofio'r WWI: Anrhydeddu cof y 70 o Arwyr o Gilfái fu farw." Dyfarnwyd y grant drwy raglen Rhyfel Byd Cyntaf Cronfa Dreftadaeth y Loteri: Ddoe a Heddiw a ddechreuodd gyda digwyddiad emosiynol Cofio'r Canmlwyddiant ac arddangosfa gyhoeddus yn Llyfrgell Gymunedol St Thomas, a fynychwyd gan Gymdeithas Hanes Eastside, Cyfeillion Parc Polly, plant Ysgol St Thomas a Chefn Hengoed, aelodau'r gymuned, Gwasanaethau Llyfrgell Abertawe, a chynrychiolwyr o’r Lleng Brydeinig Frenhinol, y Llynges Frenhinol a'r Llynges Fasnachol. Teithiodd un ymwelydd o Ddinbych-y-pysgod, ac roedd un arall yn hedfan i mewn o'r Swistir."
"Lansio'r llyfryn hwyn yw'r ail ddigwyddiad o blith cyfres o bedwar o ddigwyddiadau a gynlluniwyd gan SOMM i goffáu'r dynion lleol a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, llawer yn marw yn y Somme, yn Ypres ac mewn brwydrau mawr eraill. Roedd dau o'r dynion a restrwyd ar y gofeb yn efeilliaid o deulu Grenfell, sydd â chysytlliad â'r enwog Copperopolis. Dyfarnwyd y VC i un o'r efeilliaid, Francis Octavius Grenfell, am ddewrder. Rwy'n teimlo mor freintiedig a ac mor wylaidd i fod yn ymwneud â darganfod eu straeon. Mae dau gam cyntaf y prosiect wedi galluogi pobl leol o bob oed iac o wahanol gefndiroedd sy'n gysylltiedig ag ardal Eastside, Abertawe i fod yn rhan o'r gwaith o ddiogelu ac anrhydeddu atgofion am dynion o'n cymuned dynn ein hunain."
Ymysg y camau nesaf i’r prosiect yn y dyfodol mae creu Llwybr Pabi o hen gartrefi dynion Cilfái a darparu mainc Goffa ym Mharc Polly, gerllaw'r hen eglwys lle cedwir y gofeb.
Bydd yr wybodaeth a gesglir o'r ymchwil yn cael ei chofnodi a'i rhannu'n ddigidol ar-lein yn ddiweddarach, fel y gall eraill ledled y byd gael gafael ar wybodaeth ychwanegol a chyfrannu ati. Bydd hyn yn caniatáu i bobl drafod, rhannu ac ymchwilio I’r wybodaeth am y prosiect a'r dynion a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Owner:
Anita Arcari
Crëwr:
Anita Arcari
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
10/11/2020
Gwelediadau:
732
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment