Skip to main content

Cofi'r Rhyfel Byd Cyntaf: Anrhydeddu'r cof am y 69 o Arwyr Cilfái a gollodd eu bywydau

Disgrifiadau

Derbyniodd grŵp Save Our Memorial Monument (SOMM) yng Nghilái, Abertawe, grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri o £3000 ar gyfer eu prosiect, "Cofio'r Rhyfel Byd Cynraf: Anrhydeddu’r cof am y 69 o Arwyr Cilfái sydd wedi marw". Cafodd y grant ei ddyfarnu drwy raglen Y Rhyfel Byd Cyntaf: Ddoe a Heddiw Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a dechreuodd y prosiect gyda Digwyddiad Cofio Canmlwyddiant emosiynol ac arddangosfa gyhoeddus yn Llyfrgell Gymunedol St Thomas.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Llynges Frenhinol, y Lleng Brydeinig Frenhinol a'r Llynges Fasnachol, a siaradodd yn huawdl iawn am eu rôl yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedi hynny. Darllenodd plant ysgol Sant Thomas a Chefn Hengoed gerddi yr oeddent wedi'u hysgrifennu mewn gweithdai barddoniaeth a gwneud pabi. Mae'r pabi a'r croesau hyn a grewyd bellach yn rhan o'r arddangosfa. Roedd grwpiau cefnogol hyn hefyd yn bresennol, o Gymdeithas Hanes Eastside a Chyfeillion Polly Parc Polly yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd.

Cynlluniodd Anita Arcari a Kathryn Niederlag o Carelle yr arddangosfa o'r silwét atgofus o'r milwr gan Anthony Graham. Mae'r prosiect wedi galluogi llawer o bobl leol yn ardal Eastside Abertawe i ddod at ei gilydd i ddiogelu atgofion a threftadaeth aelodau'r gymuned a oedd yn byw yn ystod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a hefyd y rhai fu farw.

Bydd llawer yn adnabod SOMM fel y grŵp oedd yn gweithredu fel SAS (Achub yr Holl Seintiau), a ymgyrchodd yn erbyn cau Eglwys yr Holl Saint yng Nghilfái. Yn anffodus, bu’n rhaid bwrw mlaen gyda chau’r eglwys, ond nod y prosiect hwn a ariennir gan y loteri yw codi ymwybyddiaeth o Gofeb y Rhyfel Byd Cyntaf, sydd bellach dan glo y tu ôl i ddrysau caeedig. Nod hirdymor y grŵp yw ariannu'r gwaith o warchod ac adleoli'r gofeb, neu os nad yw hynny'n bosib, i gomisiynu rhywun i greu un newydd.

Owner:
Anita Arcari
Crëwr:
Save Our Memorial Monument
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2020
Eitem wedi’i llwytho:
10/11/2020
Gwelediadau:
541
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment