Plant Ysgol o Abertawe yn Creu Pabi a Cherddi ar gyfer Dydd y Cofio 2018
Disgrifiadau
Fel rhan o brosiect Save Our Memorial Monument (SOMM) "Cofio'r Rhyfel Byd Cynraf: Anrhydeddu cof y 69 o Arwyr Cilfái fu farw," creodd disgyblion o ysgolion St Thomas a Chefn Hengoed babi a cherddi ar gyfer arddangosfa i anrhydeddu'r rhai o Gilfái, Abertawe a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd yr arddangosfa ei chynnal yn Llyfrgell Gymunedol St Thomas. Roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Llynges Frenhinol, y Lleng Brydeinig Frenhinol a'r Llynges Fasnachol, a siaradodd yn huawdl iawn am eu rôl yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedi hynny. Darllenodd plant ysgol Sant Thomas a Chefn Hengoed eu cerddi yn ogystal. Roedd grwpiau cefnogol hefyd yn bresennol, Cymdeithas Hanes Eastside a Chyfeillion Polly Parc Polly ynghyd ag aelodau o’r cyhoedd.
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cefnogi'r prosiect hwn sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth am Gofeb y Rhyfel Byd Cynraf, sydd bellach dan glo. Nod hirdymor y grŵp yw ariannu'r gwaith o warchod ac adleoli'r gofeb, neu os nad yw hynny'n bosibl, i gomisiynu rhywun i greu un newydd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment