Tîm Pêl-droed y Royal Welsh Warehouse a'u Swyddogion, 1914
Disgrifiadau
Enillodd y tîm hwn o frethynwyr o Royal Welsh Warehouse Pryce-Jones y Montgomeryshire Challenge Cup ym mis Ebrill 1914. Ffurfiwyd y tîm tua 1890 fel tîm gwaith, un o’r nifer o dimau chwaraeon a drefnwyd gan Gymdeithas Chwaraeon ac Adloniant y RWW. Buddigoliaeth y tîm ym mis Ebrill 1914 oedd y trydydd achlusur y bu iddynt ennill y cwpan ers iddo gael ei gynnig am y tro cyntaf ym 1907. Bu’n rhaid i’r gwŷr ifanc yn y llun gyfnewid eu crysau pêl-droed am lifrai’r fyddin o fewn dim, gan i bob un ohonynt gael eu galw i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gwasanaethodd deg ohonynt gyda 7fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol yn Galipoli a Phalesteina, gyda’r olaf yn gwasanaethu efo’r Peirianwyr Brenhinol. Yn drist iawn wnaeth dau ohonynt ddim dychwelyd gartref.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment