Abdulrahim Abby Farah
Disgrifiadau
Bachgen o'r Barri a aned yn Thompson Street yw'r gŵr yma; mae'n fab i ddyn o Somalia a Chymraes a thyfodd i fod yn ffigwr eiconig yn ei gymuned ac yn genedlaethol. Aeth ar daith anhygoel o strydoedd y Barri nes cyrraedd pinacl ei yrfa yn gweithio yn y Cenhedloedd Unedig.
Derbyniodd ei addysg yn ysgolion yn y Barri ac yna aeth ymlaen i Brifysgol Rhydychen; yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn Weinidog i'r Llywodraeth ac yn Llysgennad dros weriniaeth newydd Somali cyn ymgymryd â swydd Diprwy Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
Pan oedd yn cael ei fagu yn y Barri, fe wnaeth ei deulu sefydlu'r clwb ieuenctid aml-hil cyntaf yng Nghymru (y Domino Club); bu hefyd yn Llysgennad yn Ethiopia a Chadeiriodd Bwyllgor Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar Apartheid, ac roedd yn ffigwr amlwg yn yr ymdrech i ryddhau Nelson Mandela.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment