Skip to main content

Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1960

Disgrifiadau

7 negatif : du a gwyn. Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1960
Yr Orsedd yn gorymdeithio.
Llun 1: Wrth borth cylch yr Orsedd yn Nghaerdydd -- Mrs Enid Arwel Hughes. Cyflwynydd y corn Hirlas, y ddau facwy, Huw Emlyn Jenkins a John Friend a rhai o blant y ddawns flodau yn aros eu tro i symud i'r cylch.
Llun 2: Mrs Enid Arwel Hughes, cyflwynydd y Corn Hirlas, a'r ddau facwy, Huw Emlyn Jenkins a John Friend.
Llun 3: Cyflwynwyd yr Aberthged, yn enw Morynion Caerdydd, yn seremoni'r Cyhoeddi gan Miss Elizabeth Meurig Williams, 22 oed, physiotherapydd yn Ysbyty Frenhinol Caerdydd. Morynion y Llys oedd Delwen Jones ac Elinor Morris, y ddwy yn 11 oed.
Llun 4: Miss Elizabeth Meurig Williams, cyflwynydd yr Aberthged, a'i morynion, Delwen Jones ac Elinor Morris, yn dychwelyd o'r Maen Llog.
Llun 5: Elinor Morris a Delwen Jones, Morynion y Llys, disgyblion yn Ysgol Gymraeg Bryntaf yn dychwelyd o'r cylch gyda'r Aberthged.
Llun 6: Rhai o Gymry Caerdydd a oedd yn gwerthu rhaglenni ddydd cyhoeddi Prifwyl 1960. Y tair fach yw Haf Thomas, Rhoswen Thomas, ac Eirlys Britton. A'r merched eraill, o'r chwith -- Mrs B Thomas, Mair Edwards, Winifred Llewelyn, Mair H Hughes, Beryl Evans, Rosmari Williams, Mrs Glyn Evans a Mrs Ellen Thomas.
Llun 7: Yr Orsedd yn gorymdeithio.

Owner:
The National Library of Wales - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Crëwr:
Geoff Charles
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
24/8/2020
Gwelediadau:
563
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment