Skip to main content

CND Heddwch 37 Gaeaf 2005-6

Disgrifiadau

Heddwch' yw cylchgrawn cefnogwyr CND Cymru, Ymgyrch Cymru dros Ddiarfogi Niwclear, a gyhoeddwyd tua chwarterol o 1985 (yn dilyn sefydlu CND Cymru fel rhwydwaith ymgyrchu annibynnol o 1981), hyd heddiw. 
 
Mae CND Cymru, Ymgyrch Cymru dros Ddiarfogi Niwclear, yn gweithio dros heddwch, cyfiawnder a diarfogi rhyngwladol, a thros byd lle gall yr adnoddau enfawr sy'n cael eu rhoi i filwriaeth gael eu hailgyfeirio er mwyn cwrdd â gwir anghenion y gymuned a'r amgylchedd. Mae pob rhifyn o 'Heddwch' ac 'Ymgyrch Cymru' yn cynnwys diweddariadau ar gynnydd ymgyrchoedd a gweithgareddau CND ledled Cymru, gyda llawer o gyfeiriadau penodol at gymunedau, gweithredwyr a mudiadau Cymru; mae'n ffynhonnell gyfeiriol werthfawr ar gyfer archwilio treftadaeth heddwch Cymru dros y 4 degawd diwethaf.
 
Mae Archif CND Cymru ar Gasgliad y Werin Cymru, gafodd ei digido gan dîm 'Cymru dros Heddwch' Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau a chofnodion cefnogwyr CND Cymru rhwng 1981 a heddiw, gan gynnwys:
• Cylchgrawn 'Ymgyrch Cymru' 1-20 (1985-1991)
• Cylchgrawn 'Heddwch' 1-74 (1991 i 2020)
• Atodiadau 'Heddwch Action News' 1-14 (1992 i 2006) a thaflenni gwybodaeth
• 'Ymgyrch Byncer Pen-y-bont ar Ogwr' 1982 Casglu cylchlythyrau, Clipiau i'r Wasg ac Adroddiadau Ysgrifenedig.
 
Cedwir archifau papur CND Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a gellir eu chwilio drwy Gatalog LlGC o dan 'CND Cymru National Archive'.

Owner:
CND Cymru
Crëwr:
CND Cymru
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
30/7/2020
Date originally created:
1/11/2005
Gwelediadau:
819
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment