Canol Caerdydd Cyfnod y Cloi Mai 2020
Disgrifiadau
Dyma fideo wnes i ei greu o Gaerdydd yn ystod Cyfnod y Cloi 2020. Roedd y cyfyngiadau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod angen i'r holl siopau, clybiau a bariau gau er mwyn helpu i atal lledaeniad coronafeirws COVID-19, a chai pobl eu hannog i aros gartref yn ystod Cyfnod y Cloi.
A minnau yn 22 mlwydd oed arferwn ymweld â'r amrywiol leoliadau yn y fideo gyda fy nheulu a'm ffrindiau, ac roeddwn i yn gyfarwydd â'r llefydd hyn fel cyrchfannau cymdeithasol swnllyd a phrysur. Roedd bod yn dyst i'r tawelwch mawr a ddaeth i'r un strydoedd yn syfrdannol, ac roedd yn brofiad emosiynol; roedd gweld Caerdydd yn y cyflwr hwn yn gwneud i rywun fod dan deimlad.
Roedd y posteri a welwyd yn ymddangos yma ac acw yn nodwedd weledol newydd iawn yng nghanol y ddinas, ac roeddent siarad yn uchel gyda negeseuon o ddiolchgarwch a deimlwyd gan y cyhoedd wrth iddynt aros y tu mewn i ddiogelwch eu cartrefi yn hunanynysu.
Cerddoriaeth: https://www.purple-planet.com
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment