Skip to main content

Marc ceffyl Malacara, ceffyl John Daniel Evans, c. 1880au

Disgrifiadau

Roedd Malacara yn geffyl a enillodd le iddo'i hun yn hanes y Wladfa ym Mhatagonia pan achubodd fywyd ei berchennog, John Daniel Evans.

Ym Mawrth 1884, fel roedd John Evans yn dychwelyd adref ar ôl arwain taith i chwilio am aur, ymosodwyd arno ef a thri Chymro arall gan grŵp o bobl frodorol. Lladdwyd y tri arall ond llwyddodd John Daniel Evans i ddianc pan neidiodd ei geffyl Malacara i le diogel i lawr llethr serth.

Bu farw Malacara ym 1909 yn 31 mlwydd oed. Claddodd John Evans y ceffyl yn Nhrevelin mewn bedd yn dwyn yr arysgrif "Aquí yacen los restos de mi caballo Malacara que me salvó la vida en el ataque de los indios en el Valle de los Mártires 4-3-84 al regresarme de la cordillera R.I.P. John Daniel Evans" (Yma y gorwedd gweddillion fy ngheffyl Malacara, a achubodd fy mywyd yn ystod ymosodiad yr Indiaid yn Nyffryn y Merthyron 4-3-84 pan oeddem yn dychwelyd o'r mynyddoedd).

Owner:
Museum of History of the Welsh Settlement in Gaiman
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Hanes y Wladfa yn y Gaiman
Copyright Details:
Amgueddfa Gaiman 1970
Publisher Ref:
cnp01511
Eitem wedi’i llwytho:
13/5/2010
Date originally created:
1/1/1800 - 31/12/1899
Gwelediadau:
2068
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment