Skip to main content

Ffotograff o Dafydd Rhys Jones, Maes Comet, a'i deulu, 1895

Disgrifiadau

Ganed Dafydd Rhys Jones ar 10 Mehefin 1877 ym Maes Comet, Drofa Dulog, Patagonia, yn un o ddeg o blant. Roedd ei dad yn hanu o Flaen-porth ac roedd yn aelod o'r fintai gyntaf a deithiodd i Batagonia ym 1865. Derbyniodd Dafydd Rhys Jones ei addysg fore yn ysgol a gedwid gan Richard Berwyn Jones ac wedi hynny fe'i anfonwyd, yn 15 oed, i gael addysg yng Nghymru. Mynychodd Ysgol Fwrdd Aberteifi, Ysgol Ardwyn, Aberystwyth ac Ysgol Ramadeg Castell Newydd Emlyn. Yna treuliodd amser yng ngholeg Aberystwyth yn astudio ar gyfer ei dystysgrif athro.

Ar ôl cyfnod o ddysgu yng Nghymru cafodd ei benodi'n brifathro Ysgol y Gaiman. Ar ôl 8 mlynedd lwyddiannus yn dysgu yn yr ysgol honno, dychwelodd yn ôl i Gymru. Arhosodd yng Nghymru am weddill ei oes a bu farw ar 9 Ionawr 1946 yn 68 mlwydd oed. Mae wedi ei gladdu ym mynwent Ysbyty Ystwyth.

Owner:
Museum of History of the Welsh Settlement in Gaiman
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Hanes y Wladfa yn y Gaiman
Copyright Details:
Amgueddfa Hanes y Wladfa yn y Gaiman 2010
Publisher Ref:
cnp01070
Eitem wedi’i llwytho:
12/5/2010
Date originally created:
1895
Gwelediadau:
1879
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment