Cytundeb ynglŷn â'r Drafod
Cytundeb ynglŷn â'r Drafod
Disgrifiadau
Cytundeb a luniwyd ar 31 Mawrth 1896 rhwng Lewis Jones a Chymdeithas Argraffu y Camwy. Nodir yn y cytundeb fod Lewis Jones yn cytuno i werthu ei holl offer argraffu i'r Gymdeithas Argraffu am £150. Nodir bod hanner y swm i'w dalu yn syth wrth drosglwyddo'r dodrefn i'r Gymdeithas, a byddai'r gweddill yn daladwy o fewn blwyddyn i'r cytundeb. Nodir mai'r Gymdeithas sy'n gyfrifol am y dodrefn a'r taliad olaf. Cytunai'r Gymdeithas fod y Gwerslyfr Cymraeg a Hispaeneg yn eiddo i Lewis Jones a bod y Gymdeithas i dderbyn yr holl bapur trwchus a fyddai dros ben ar ddiwedd yr argraffiad.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment