Broetsh Oes Haearn Hwyr, 100CC - 100OC, Din Lligwy
Broetsh Oes Haearn Hwyr, 100CC - 100OC, Din Lligwy
Disgrifiadau
Ym 1988 darganfuodd Andrew Gilespie, gyda’i ddatgelydd metel, y tlws hwn ar lan nant fach ger Din Lligwy, Ynys Môn. Mae'r arteffact addurniadol, wedi'i wneud o aloi copr, wedi'i ddyddio i 100 CC i 100 OC. Mae o fath nad yw i'w gael yn aml yng Ngogledd Cymru ac mae ei ddyluniad yn debyg i froetshis sy’n nodweddiadol o ddiwylliant La Tѐne o ganol Ewrop.
Mae ganddo bedwar sbring gyda phin ynghlwm sy'n ffitio ar hasp ar gyfer sicrhau eitem o ddillad. Mae'r sbringiau wedi'u difrodi a'u hatgyweirio mewn hynafiaeth, gan ganiatáu iddo gael ei ailddefnyddio.
Rhoddwyd gan John Aron a Andrew Gilespie. Rhif derbynodi 3/2010
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment