Skip to main content

R. J. Berwyn (1836-1917) a'i deulu, c. 1880au

Disgrifiadau

R. J. Berwyn (1836-1917) gyda'i wraig Elisabeth a'u plant (Alwen, Einion, Ithel, Owain ac Urien), ynghyd â dau o blant Elisabeth o'i phriodas gyntaf ('plant Dimol' - sef Arthur Llywelyn a Gwladus). Ganed wyth o blant eraill i Elisabeth ac R. J. Berwyn (sef, Wyn, Ynfer, Bronwen, Ceinwen, Dilys, Ffest, Gwenonwy a Helen).

Priododd Elisabeth â Berwyn yn dilyn marwolaeth ei gwr Thomas Pennant Evans (Twmi Dimol), brodor o Bennant Melangell, Sir Drefaldwyn. Roedd ar fwrdd y llong 'Denby' pan aeth ar goll ar y môr ym 1868. Roedd y tri ohonynt yn aelodau o'r fintai gyntaf o ymfudwyr a hwyliodd i'r Wladfa ar y 'Mimosa' ym 1865.

Ganed Richard Jones (Berwyn) yng Nglyndyfrdwy, Sir Feirionnydd. Treuliodd gyfnodau yn Llundain a'r Unol Daleithiau, ond dychwelodd i Gymru pan glywodd am gynllun y Parch. Michael D. Jones i sefydlu gwladfa Gymreig. Mabwysiadodd yr enw 'Berwyn' yn fuan wedi iddo ymfudo i Batagonia ym 1865.

Roedd R. J. Berwyn yn llenor ac yn gymeriad blaenllaw yn hanes y Wladfa. Ef oedd ei chofrestrydd genedigaethau, priodasau a marwolaethau, a bu hefyd yn gyfrifol am olygu papur newydd Cymraeg cyntaf y Wladfa, sef 'Y Brut' (1868). Daliodd nifer o swyddi cyhoeddus, gan gynnwys ysgrifennydd Cyngor y Wladfa, ysgrifennydd y llysoedd Cymraeg, postfeistr, ac athro. Gyda chymorth Thomas Pugh, lluniodd 'Gwerslyvr i Ddysgu Darllen at Wasanaeth Ysgolion y Wladva' (1878; ail argraffiad, 1881). Cyhoeddwyd ei almanaciau yn flynyddol hyd 1905.

Roedd R. J. Berwyn yn un o gefnogwyr teyrngar Lewis Jones a carcharwyd y ddau ohonynt ym 1882-3 am eu rhan yn yr ymgyrch i ddiogelu hawliau'r Cymry. Yn anffodus, collwyd cofnodion a'i ysgrifau hanesyddol Berwyn yn llifogydd 1899. Roedd yn frawd i William Lloyd Jones 'Glyn' a oedd hefyd yn byw yn y Wladfa.

Owner:
Bangor University Archives and Special Collections
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor
Copyright Details:
Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor 2010
Publisher Ref:
cnp00607
Eitem wedi’i llwytho:
12/5/2010
Date originally created:
1880-1889
Gwelediadau:
2366
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment