Llythyr oddi wrth Llwyd ap Iwan at ei fam, Mrs Anne Jones, 1 Mehefin 1902 [tudalen 1, delwedd 1 o 2]
Llythyr oddi wrth Llwyd ap Iwan at ei fam, Mrs Anne Jones, 1 Mehefin 1902 [tudalen 1, delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Llythyr oddi wrth Llwyd ap Iwan, Chubut, at ei fam Mrs Anne Jones, 1 Mehefin 1902. Mae'n diolch iddi am ei llythyrau a dywed ei fod bellach wedi derbyn llythyrau gan ei frawd, Mihangel. Dywed fod nifer o Foeriaid wedi cael eu gweld yn teithio i gyfeiriad y de at Lyn Colwapi. Nid yw'r arolygon yn ffafriol gan fod perygl y bydd llifogydd eto eleni, felly bydd yn dechrau paratoi cyn bo hir i dreulio'r gaeaf ar y mynydd. Dywed fod 259 o ymfudwyr wedi gadael Porth Madryn am Ganada yn ddiweddar ar fwrdd yr 'Orissa'. Yn ei farn ef, bydd llawer mwy yn eu dilyn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment