Llythyr oddi wrth y Parch. D. Lloyd Jones at y Parch. Michael D. Jones, 8 Chwefror 1879 [tudalen 1, delwedd 1 o 16]
Llythyr oddi wrth y Parch. D. Lloyd Jones at y Parch. Michael D. Jones, 8 Chwefror 1879 [tudalen 1, delwedd 1 o 16]
Disgrifiadau
Llythyr oddi wrth y Parch. D. Lloyd Jones, Chubut, at y Parch. Michael D. Jones, 8 Chwefror 1879. Sonia am gyflwr gwleidyddol y Wladfa a'r angen am freinlen (charter). Priodola'r fath sefyllfa i awydd un person, sef Lewis Jones, am swydd ynad dan Weriniaeth Ariannin. Dywed iddo gael Lewis Jones 'yn mhob peth gwladfaol yn hollol ddiegwyddor' ac iddo wneud popeth yn ei allu i achosi gwrthdaro rhwng y Wladfa a swyddogion y Weriniaeth. Sonia hefyd am ei weithgarwch ei hun fel gweinidog a'r angen am Gymdeithas Genhadol i Dde America.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment