Arwyddion Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig Aberystwyth yn ystod cyfnod y cloi 2020
Disgrifiadau
Hysbysiad ar arwydd Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn nodi ei bod ar gau. Caewyd ysgolion Cymru ar 23 Mawrth 2020 er mwyn diogelu plant ac athrawon ac atal lledaeniad y coronafeirws. Arhosodd rhai ysgolion 'hwb' ar agor i blant gweithwyr allweddol yn unig.
Cafodd Ysgol Penweddig ei thrawsnewid yn ysbyty dros dro, gyda chyflenwadau yn cael eu dosbarthu'n gyson yno. Yn ffodus iawn, ni fu'n rhaid agor y safle i gleifion.
Hon oedd blwyddyn olaf fy merch yn yr ysgol, ac ni fu'n bosib iddi hi na'i chyfoedion sefyll arholiadau Lefel A oherwydd amgylchiadau heriol y pandemig. Cyhoeddwyd ym mis Mehefin y gallai ysgolion yng Nghymru agor i ddisgyblion, cyn belled ag y bo ymbellau cymdeithasol yn cael eu parchu, ond cadarnhawyd na fyddai unrhyw blant yn dychwelyd i adeilad Ysgol Penweddig ar Ffordd Llanbadarn nes tymor yr hydref.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment