Skip to main content

Ffigur Crochenwaith Swydd Stafford o Christmas Evans

Disgrifiadau

Roedd Christmas Evans (1766-1838) yn weinidog Anghydffurfiol, a anwyd ger Llandysul yng Ngheredigion. Yn ei ieuenctid, wrth weithio fel llafurwr cynhaeaf yn Swydd Henffordd, ymosododd giang arno a chollodd lygad yn y ffrwgwd. Roedd ei anffurfiad, ynghyd â’i faint - honnir iddo sefyll saith troedfedd o daldra - yn rhoi presenoldeb aruthrol iddo.

Yn 1789 symudodd i ogledd Cymru, gan ymgartrefu yn Llangefni lle'r adeiladodd gymuned Bedyddwyr gref. Yn 1838, wrth deithio o amgylch de Cymru, aeth y pregethwr pwerus a llwyddiannus yn sâl a bu farw yn Abertawe. Claddwyd ef ym mynwent Capel Bethesda yn y ddinas.

Yma, mae'n cael ei ddangos yn gwisgo siaced ddu a llodrau ac yn pwyso yn erbyn piler gyda llyfrau.

Owner:
Oriel Môn
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
9/6/2020
Date originally created:
9/6/2020
Gwelediadau:
795
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment