Y Parch. Michael D. Jones (1822-98), c.1885
Disgrifiadau
Ganed y Parch. Michael D. Jones (1822-98) ym mhentref Llanuwchllyn, ger Y Bala. Roedd yn wladgarwr a gweinidog gyda'r Annibynwyr ac ef, yn anad neb arall, sy'n cael ei ystyried fel arweinydd y mudiad i sefydlu'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Ar ôl treulio cyfnodau yn astudio yng Nghaerfyrddin a Llundain, ym 1848 teithiodd i Ohio, Unol Daleithiau America, lle'r oedd ei chwaer wedi ymsefydlu ym 1837. Cafodd ei ordeinio'n weinidog yn Cincinnati, ac yno gwelodd y caledi a'r anawsterau a wynebai nifer o ymfudwyr Cymreig yn eu cynefin newydd. Arhosodd Jones yn yr Unol Daleithiau am ddwy flynedd, ac yn ystod y cyfnod hwn y ffurfiodd ei weledigaeth i sefydlu gwladfa Gymreig 'annibynnol', a fyddai'n rhydd rhag dylanwadau Seisnig ac Americanaidd.
Yn fuan wedi iddo ddychwelyd i Gymru, cafodd Jones ei benodi yn Brifathro Coleg yr Annibynwyr yn y Bala ac yno cafodd ei dynnu i ganol ffrae chwerw. Er gwaethaf hyn, glynodd wrth y weledigaeth o sefydlu gwladfa Gymreig a dechreuodd chwilio am gefnogaeth i'w gynllun. Roedd nifer o'i gyd-gymry yn rhannu'r farn fod eu hiaith, crefydd a'u ffordd o fyw dan fygythiad oherwydd gormes eu meistri Seisnig, ac roeddynt yn awyddus i glywed mwy. Er i Michael D. Jones a'i wraig fuddsoddi llawer o amser ac arian yn y prosiect, arhosodd y ddau ohonynt yng Nghymru. Aeth Jones ar daith i'r Wladfa ym 1882, ond hwn oedd ei unig ymweliad â Phatagonia.
Priododd Michael D. Jones ac Anne Lloyd ym 1859 gan ymsefydlu yn eu cartref newydd yn y Bala, sef Bodiwan. Cawsant bedwar o blant: Llwyd, Mihangel, Myfanwy a Maironwen. Ymsefydlodd y meibion yn Ne America: Llwyd ym Mhatagonia a Mihangel yn Buenos Aires. Yn drasig iawn, cafodd Llwyd ei saethu'n farw yno gan ladron ym 1909. Priododd Myfanwy â'r Athro Thomas Rhys, Coleg Bala-Bangor. Bu farw Mair ychydig fisoedd cyn ei thad. Bu farw Michael D. Jones yn Bodiwan ar 2 Rhagfyr 1898 ac fe'i claddwyd ym mynwent yr Hen Gapel, Llanuwchllyn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment