Lewis Jones (1836-1904), un o arweinwyr y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia
Disgrifiadau
Ganed Lewis Jones (1836-1904), un o brif arweinwyr y Wladfa, yng Nghaernarfon, a bu'n gweithio fel argraffydd yng Nghaergybi a Lerpwl. Yn ystod ei gyfnod yn Lerpwl, daeth yn aelod blaenllaw o'r Pwyllgor Gwladychfaol a oedd yn galw am sefydlu gwladfa Gymreig. Ym 1862, cafodd ei ddewis gan y pwyllgor i archwilio'r tir ym Mhatagonia yng nghwmni Capten Love Jones-Parry.
Ym 1865, anfonwyd ef ac Edwin Cynrig Roberts i Batagonia i baratoi ar gyfer glaniad y fintai gyntaf o ymfudwyr. Roedd dyddiau cynnar y Wladfa yn rhai anodd dros ben, a siomwyd nifer o'r ymfudwyr. Oherwydd yr holl ddrwgdeimlad, penderfynodd Lewis Jones, llywydd y Wladfa ar y pryd, i adael Patagonia am gyfnod, a threuliodd deunaw mis yn gweithio fel argraffydd yn Buenos Aires. Pan glywodd fod nifer o'r Cymry yn awyddus i adael Patagonia ym 1867, dychwelodd i'r Wladfa i'w perswadio i aros.
Penderfynodd symud yn l i'r Wladfa gyda'i deulu ym 1871. Cafodd Lewis a'i wraig Ellen, ddwy ferch: Eluned Morgan, a ddaeth yn adnabyddus fel llenor, a Myfanwy Ruffydd, a briododd Llwyd ap Iwan, sef mab Michael D. Jones.
O'r 1870au ymlaen, chwaraeodd Lewis Jones ran allweddol ym mywyd y Wladfa. Roedd yn gyfrifol am wasg argraffu gyntaf y Wladfa ac ef oedd sefydlydd y papurau newydd 'Ein Breiniad' (1878) a'r 'Drafod' (1891). Cyhoeddodd ei lyfr ar hanes y Wladfa, 'Y Wladfa Gymreig', ym 1898. Chwaraeodd Jones hefyd ran flaenllaw yn y cynllun arloesol i adeiladu rheilffordd o Borth Madryn i Ddyffryn Camwy. Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym 1886 ac fe agorwyd y rheilffordd yn swyddogol dair mlynedd yn ddiweddarach. Cafodd y dref a godwyd ar ddiwedd y lein, sef Trelew, ei henwi ar ei l. Mae cerflun o'r dyn hynod hwn yn sefyll ym mharc y dref, sef Parque Centenario.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment