Capten T. Duncombe Love Jones-Parry (1832-91), barwn Madryn, c. 1865
Disgrifiadau
Roedd Love Jones-Parry ymhlith pum gwr dylanwadol a benodwyd fel ymddiriedolwyr i'r Gymdeithas Ymfudol yn Lerpwl, gyda'r bwriad iddynt weithredu fel dolen gyswllt rhwng y Gymdeithas a'r llywodraeth Archentaidd. Ym 1862 penodwyd Love Jones-Parry a Lewis Jones i deithio i'r Ariannin ar ran y Gymdeithas Ymfudol i drafod gyda Gweinidog y Fewnwlad, Dr Guillermo Rawson, ac i archwilio lleoliadau posibl ar gyfer y gwladfa Gymreig. Y gobaith oedd y byddai profiad diplomyddol Love Jones-Parry yn hwyluso'r trafodaethau. Hefyd, cyfrannodd £500 at gostau'r daith.
Gad nad oedd yn bosibl i Jones-Parry hwylio i'r Ariannin tan ganol Rhagfyr 1862, bu'n rhaid i Lewis Jones adael ar ei ben ei hun ar ddechrau mis Tachwedd. O ganlyniad, ni chwaraeodd lawer o ran yn y trafodaethau gyda'r llywodraeth Archentaidd. Roedd cytundeb eisoes wedi ei llunio pan gyrhaeddodd Buenos Aires yn Ionawr 1863. Ychwanegu ei lofnod i'r cytundeb yn unig a wnaeth Love Jones-Parry.
Wedi iddynt sicrhau cytundeb gyda'r llywodraeth Archentaidd, hwyliodd Love Jones-Parry a Lewis Jones o Buenos Aires gan ddechrau ar eu taith archwiliadol o'r tiroedd ym Mhatagonia. Dychwelodd y ddau i Gymru ym mis Mai a chyflwyno adroddiadau manwl a ffafriol am yr hyn a welsant ym Mhatagonia. Defnyddiwyd adroddiadau'r ddau gynrychiolydd i hyrwyddo Dyffryn Chupat ym Mhatagonia fel lleoliad addas ar gyfer gwladfa Gymreig - mater a brofodd yn ddadleuol iawn yn ddiweddarach.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment